Llofruddiaeth Stephen Lawrence

Oddi ar Wicipedia
Llofruddiaeth Stephen Lawrence
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr

Sais yn ei arddegau o Eltham, Llundain, oedd Stephen Lawrence (13 Medi 197422 Ebrill 1993) a gafodd ei drywanu'n farw tra'n aros am fws fin nos ar yr 22 Ebrill 1993. Wedi'r ymchwiliad gwreiddiol cafodd pum person eu harestio one heb eu cael yn euog. Credir fod llofruddiaeth Lawrence yn drosedd casineb ag elfen hiliol iddi. Yn ôl ymchwiliad gan Syr William Macpherson ym 1999, roedd Heddlu Llundain yn "gyfundrefnol hiliol", a dylanwadodd hyn ar yr achos.

Cychwynnodd achos llys newydd yn 2011 gan gyhuddo dau o'r dynion a ddrwgdybir yn yr ymchwiliad gwreiddiol o lofruddio Lawrence, a chanolbwyntiodd yr erlyniad ar dystiolaeth fforensig. Ar 3 Ionawr 2012 cafwyd Gary Dobson a David Norris yn euog o lofruddio Lawrence a drenydd dedfrydwyd y ddau i'w cadw hyd y mynno Ei Mawrhydi, sef o leiaf 15 mlynedd a 2 fis i Dobson ac o leiaf 14 mlynedd a 3 mis i Norris. Roedd wedi cymryd 19 Blwyddyn I arestio y ddau dyn yma

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Lundain. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am drosedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.