Llinyn Trôns

Oddi ar Wicipedia
Llinyn Trôns
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurBethan Gwanas
CyhoeddwrGwasg Gomer
GwladCymru
IaithCymraeg
PwncLlenyddiaeth plant Gymraeg
Argaeleddmewn print
ISBN9780862435202
CyfresNofelau Nawr

Nofel gan yr awdures Bethan Gwanas yw Llinyn Trôns (2000). Yn 2001 enillodd Wobr Tir na n-Og. Mae'r nofel ar gwrs llenyddiaeth Gymraeg TGAU CBAC.

Mae'r nofel yn adrodd hynt a helynt criw o ddisgyblion Blwyddyn 11 sy'n mynd i wersyll awyr agored er mwyn gwneud gweithgareddau adeiladu cymeriad.

Plot[golygu | golygu cod]

Ar ddechrau'r nofel cyflwynir y prif gymeriad Llion Jones. Ei ffugenw ydy "Llinyn Trôns" - enw a roddwyd iddo gan ei dad pan gollodd y ras wy-ar-lwy pan oedd yn yr ysgol gynradd. Am fod y nofel gyfan wedi ei hysgrifennu yn y person cyntaf, disgrifia Llion ei hun fel "hogyn tawel... yn hapus efo 'nghwmni fy hun a'm cyfrifiadur". Nid yw Llion eisiau mynd ar gwrs tridiau i wersyll awyr agored sydd wedi cael ei drefnu gan yr athro Addysg Gorfforol, Tecwyn Jones, neu Tecs Pecs fel mae'r disgyblion yn ei alw. Nod y cwrs hwn yw adeiladu cymeriad a thra byddant yno bydd y disgyblion yn cael canlyniadau eu harholiadau TGAU.

Cyflwynir gwahanol gymeriadau gan gynnwys Gags, Nobi, Gwenan, Olwen, Dei Dwy Dunnall a Donna (yr hyfforddwraig o'r gwersyll). Ar ôl iddynt gyrraedd y gwersyll, mae'r disgyblion yn mynd i ddringo mynydd, canwio, dringo creigiau, abseilio ac yn gweithio fel tîm er mwyn chwythu chwiban sydd wedi'i osod i fyny'n uchel ar gangen coeden.

Fodd bynnag, wrth i'r dyddiau fynd yn eu blaen gwelir y prif gymeriad Llion Jones yn datblygu ac yn aeddfedu yn ystod yr wythnos gan ennyn parch ac edmygedd ei gyd-ddisgyblion. Ar y llaw arall, gwelir yr "A-crowd" sef Gags a Nobi yn methu a chyflawni nifer o'r tasgau a osodir ar eu cyfer. Ar y noson olaf cynhelir disgo ar gyfer y disgyblion. Mae Gwenan ac Olwen yn yfed fodca yn slei tu ôl i goeden ac yn rhoi peth i Llion. Yn ei meddwdod, mae Gwenan yn cusanu Llion cyn chwydu dros ei esgidiau. Mae Gwenan hefyd yn amau ei bod wedi gweld Olwen yn diflannu gyda Donna'r hyfforddwraig tu ôl y cut offer dringo. Mae'n herio Donna ynglŷn â'r mater ond nid oes unrhyw dystiolaeth cadarn fod unrhyw beth wedi digwydd rhwng Gags a Donna.

Daw tro ar ddiwedd y nofel. Trannoeth i'r disgo, nid oes sôn am Gags yn unman. Mae Nobi'n amau ei fod wedi bod yn cysgu gyda rhyw ferch arall ond dechreua Donna a gweddill staff y gwersyll chwilio amdano. Yn ddiweddarach, ddatgelir fod cymeriad Gags wedi marw drwy ddisgyn oddi ar glogwyn. Nid yw'n gwbl eglur ai damwain neu hunanladdiad achosodd ei farwolaeth ond dywedir iddo fynd at glogwyn lle lladdodd un o forynion y plas ei hun flynyddoedd yn ôl. Rhaid i'r darllenydd benderfynu ai disgyn ar ddamwain a wnaeth Gags neu neidio i'w farwolaeth.

Cyfeirir at y ffaith fod angladd Gags wedi cael ei gynnal a dywedir fod y disgyblion wedi plannu coeden i gofio amdano.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Wikiquote
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i: