Llinos Bengoch Leiaf

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llinos Bengoch Leiaf
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Fringillidae
Genws: Carduelis
Rhywogaeth: C. cabaret
Enw deuenwol
Carduelis cabaret
(Statius Müller, 1776)
Llinos Bengoch Leiaf

Aderyn yn perthyn i'r teulu Fringillidae yw'r Llinos Bengoch Leiaf (Carduelis cabaret). Arferid ei ystyried yn is-rywogaeth o'r Llinos Bengoch Gyffredin (Carduelis flammea), ond mae nifer o awdurdodau yn awr yn ei ystyried yn rhywogaeth ar wahan.[1] Mae'n nythu ar draws rhan helaeth o ogledd a chanolbarth Ewrop, ac mae'n bur gyffredin yn Seland Newydd.

O ran maint, mae'n llai na'r Llinos Bengoch Gyffredin, 11.5-12.5 cm o hyd[2] a 20-22.5 cm ar draws yr adenydd,[3] ac mae'n fwy brown. Mae'r talcen coch yn nodweddiadol. Yng Nghymru, y rhywogaeth yma yw'r llinos bengoch gyffredin.[4]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Avibase: Lesser Redpoll. Adalwyd 29 Gorffennaf 2012.
  2. Clement, Peter; Alan Harris & John Davies (1993) Finches and Sparrows: An Identification Guide, Christopher Helm, Llundain.
  3. Snow, D. W. & C. M. Perrins (1998) Birds of the Western Palearctic: Concise Edition, Vol. 2, Oxford University Press, Rhydychen.
  4. Green, Jonathan (2002) Birds in Wales: 1992-2000, Cymdeithas Adaryddol Cymru.
Bird template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am aderyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.