Lleian wen

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Lleian Wen)
Lleian Wen
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Mergellus
Selby, 1840
Rhywogaeth: M. albellus
Enw deuenwol
Mergellus albellus
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron

Mergus albellus

Mergellus albellus

Mae'r Lleian Wen (Mergellus albellus) yn hwyaden fechan sy'n perthyn o bell i'r Hwyaden Lygad-aur. Y Lleian Wen yw'r unig aelod o'r genws Mergellus.

Mae'n nythu yn rhannau gogleddol Ewrop ac Asia, ar y taiga, gan ddefnyddio tyllau mewn coed ar gyfer y nyth, er enghraifft hen dyllau cnocellod. Yn y gaeaf mae'n symud tua'r de a'r gorllewin ac yn gaeafu ar lynnoedd neu weithiau mewn mannau cysgodol ar yr arfordir.

Pysgod yw eu prif fwyd, ac mae "dannedd" bychain ar y pig sy'n ei gwneud yn haws iddynt gadw gafael ar bysgodyn.

Mae'r ceiliog yn aderyn trawiadol iawn, ac ef sydd yn gyfrifol am yr enw Lleian Wen ar yr aderyn, gyda'r plu bron i gyd yn wyn gydag ychydig o ddu. Mae gan yr ieir a'r adar ieuainc goch ar dop y pen, gwyn ar ochr y pen a'r gweddill o'r aderyn yn llwyd.

Nid yw'r Lleian Wen yn nythu yng Nghymru. Gellir gweld niferoedd bychain ar lynnoedd yn y gaeaf ond mae'n aderyn eithaf prin.

Cofnodion unigol[golygu | golygu cod]

Cafwyd y cofnod anarferol o leian wen ym marchnad Porthmadog, 21 Ionawr 1881[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Lovegrove et al (1994): Birds in Wales