Llawysgrif Peniarth 164

Oddi ar Wicipedia
Llawysgrif Peniarth 164
Enghraifft o'r canlynolllawysgrif Edit this on Wikidata
Deunyddmemrwn, inc Edit this on Wikidata
Rhan oLlawysgrifau Peniarth Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydluc. 1375 Edit this on Wikidata
Genreffeithiol Edit this on Wikidata
LleoliadLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Prif bwncCyfraith Cymru Edit this on Wikidata

Llawysgrif cyfraith o ail hanner y 14g yw Peniarth 164 (neu 'siglum H'). Mae'r llawysgrif yn cynnwys bron i 500 o drioedd a cheir ynddi gasgliadau o gynghawsedd unigryw. Dyma'r unig lawysgrif cyfraith sydd wedi ei hysgrifennu'n gyfan gwbl mewn anglicana cyn 1400. Rywbryd cyn 1619 cafodd 'H' ei rhwymo gyda llawysgrif Peniarth 29 ac arhosodd felly tan ar ôl 1869.

Mae rhan helaeth o'r llawysgrif yn annarllenadwy oherwydd y staen afalau'r derw a roddwyd arni gan John Jones, Gellilyfdy. Yn ystod y 1940au ail-rwymwyd y llawysgrif a thorrwyd ei dalennau fel nad oes modd gweld strwythur gwreiddiol y llawysgrif.  Adysgrifiwyd H a darn o Beniarth 29 gan John Jones yn 1619 yn llawysgrif Llanstephan 121. Copïwyd cynnwys Llanstephan 121 gan Robert Vaughan, Hengwrt yn llawysgrif Peniarth 278. Defnyddiodd Aneurin Owen Peniarth 278 yn sail i Lyfr XIV Ancient Laws and Institutes of Wales.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Elias G. A., ‘Golygiad ac Astudiaeth Destunol o'r Llyfr Cyfraith yn LlGC, Llawysgrif Peniarth 164 (H), Ynghyd a'r Copïau Ohoni yn Llawysgrifau Peniarth 278 a Llanstephan 121’, (PhD, Bangor, 2007)
  • Roberts, S. E., ‘Law Texts and their Sources in Medieval Wales: The Case of H and Tails of Other Legal Manuscripts’, Cylchgrawn Hanes Cymru 24 (2008), 41–59
  • Elias, G. A., ‘Llawysgrif Peniarth 164 a Pharhad Cyfraith Hywel yn yr Oesoedd Canol Diweddar’, Llên Cymru 33 (2010), 32–50