Llawnt

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref yn Swydd Amwythig, Lloegr, yw Llawnt. Mae'r enw yn ffurf Cymraeg Canol ar y gair benthyg o'r Saesneg 'lawnt' a'r ystyr yn yr achos yma yw "Green" (mewn enwau lle am darn o dir gwyrdd yng nghanol pentref).[1]

Fe'i lleolir tua milltir yn unig o'r ffin rhwng Swydd Amwythig a Powys, ger Rhydycroesau, a thua phedair milltir i'r gorllewin o Groesoswallt. Mae ei leoliad a'i enw Cymraeg yn dangos y bu ar un adeg yn rhan o Bowys. Arosodd yn rhan o Gymru tan gyfnod y "Deddfau Uno" pan roddwyd Arglwyddiaeth Croesoswallt i Swydd Amwythig.

Llifa Afon Morda heibio i'r pentref.

Cyfeiriadau [golygu]

  1. Geiriadur Prifysgol Cymru, cyfrol II, tud. 2117.
Salop arms.png Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Amwythig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato