Llaw-glymu

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Enghraifft o glwm o'r seremoni law-glymu; mae pawb a fynychir y seremoni yn clymu rhuban o gwmpas dwylo'r cwpl.

Seremoni Ewropeaidd draddodiadol a all fod dros dro neu'n barhaol yw llaw-glymu (Saesneg: Handfasting). Mae llaw-glymu yn debyg i ddyweddïad neu briodas.

Defnydd modern[golygu]

Y dyddiau yma, ymarferir y ddefod hon gan rai Neo-baganiaid. Gellir datgan y bydd y llaw-glymiad yn parhau "tra bo cariad," am hyd oes, neu "hyd yn dragywydd" yn ogystal â datganiadau personol eraill. Nid oes yn rhaid i'r seremoni fod yn gyfreithlon (nid yw'n gyfreithlon yng Nghymru, Lloegr, ond mae yn gyfreithlon yn yr Alban ac Iwerddon). Er mwyn osgoi hyn, mae cyplau yn gallu cael seremoni sifil wedyn er mwyn cyfreithloni'r weithred.

Gellir perfformio llaw-glymiadau rhwng pobl gyfunrywiol a lesbiaid hefyd, oherwydd nid yw Paganiaeth fodern ac Wica yn gwahaniaethu rhwng pobl gyfunrywiol a heterorywiol, yn ogystal am bartneriaid amryfal mewn achos perthnasau polyamorous. Gan fod llawer o draddodiadau o fewn Neo-baganiaeth, gall un seremoni law-glymu fod yn wahanol iawn i seremoni law-glymu arall, ac nid oes defod gyffredinol. Os yw'r cwpl yn perthyn i draddodiad penodol, gallant berfformio defod yn ôl y traddodiad dan sylw, ac efallai ceir elfennau penodol i'w gwneud yn ystod y ddefod ei hun; mewn rhai traddodiadau, mae'r cwpl yn neidio dros ysgubell, neu lamu tân bach gyda'i gilydd. Gŵyl Fair y Canhwyllau yw'r adeg draddodiadol i gynnal seremoni law-glymu, gan mai dyma'r adeg pan ddechreuir dechreuadau newydd.

Fel gyda seremonïau confensiynol, gellir cyfnewid modrwyau yn ystod y ddefod, gan symboleiddio ymrwymiad.

Llenyddiaeth[golygu]

Yn ogystal ag yn The Monastry gan Syr Walter Scott, cyfeirir at law-glymu yn Cymbeline (act I, golygfa vi) gan William Shakespeare.

Cyfeiriadau[golygu]

Ffynonellau[golygu]

  • Anton, A. E. "'Handfasting' in Scotland." The Scottish Historical Review 37, no. 124 (October 1958): 89–102.

Dolenni allanol[golygu]