Llannerch Aeron

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Plasdy Llannerch Aeron

Gerllaw Aberaeron, Ceredigion saif plasty hynafol Llannerch Aeron sy'n dyddio yn ôl i 1630 pan brynnodd Llewelyn Parry'r tŷ oddi wrth teulu'r Gwyniaid o Fynachdy.

Mae Dyffryn Aeron yn nodedig am ei phlasdai. Bu'r 'Parries' yn byw yma hyd at 1746 ac yna daeth teulu'r Lewisiaid. Buont yma hyd ddyddiau John Ponsonby Lewis a fu farw yn 1989; trosgwyddodd ef y stâd i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Codwyd y plasdy presennol ym 1794/1795, wedi'i gynllunio gan y pensaer John Nash a gynlluniodd yr eglwys hefyd - eglwys Llannerch Aeron.

Bu farw Maelgwn ap Rhys rhywle yn yr ardal (safle'r plasdy, efallai) yn 1230.

Hanes ystad Llannerch Aeron[golygu]

Mae'r cofnodion am ystad Llanerchaeron yn dechrau pan werthodd y teulu Gwynne 'Blas yn Llanychayron" a thua 500 erw o dir i Lywelyn Parri yn 1634. [1] [2] Mae'n debyg bod darn o'r plas hwnnw wedi goroesi ym muriau'r bragdy a muriau'r parlwr bach. Cynyddodd maint yr ystad yn 1689 trwy briodas a'r teulu Lewis o Blas Ciliau Aeron. Erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd yr ystad yn ffynnu digon i'r Cyrnol William Lewis allu codi tŷ newydd, a gynlluniwyd gan John Nash ac a adeiladwyd yn 1794-95. Adeiladwyd y tai ffarm tua'r un pryd â'r tŷ, o bosib yn ôl cynllun gan asiant i John Nash.[3] Ychwanegwyd ystafell biliard wrth ymyl y tŷ yn 1843, yna rhod ddŵr yn 1852 a thŷ i'r beili yn 1863. Newidiwyd fawr ddim ar y tŷ ei hunan. Gostyngwyd rhai o'r ffenestri'r llofft, ac ychwanegwyd ffenestr grom i'r parlwr bach yn 1854.

Ehangodd yr ystad eto trwy briodas a'r teulu Lewes o Lysnewydd. Erbyn dechrau'r 20fed ganrif roedd rhyw 4,400 erw yn perthyn i'r ystad. Bu gweddw yr Uwchgapten John Lewis, sef mab Cyrnol William Lewis, yn rheoli'r ystad am 62 mlynedd, o 1855 pan fu farw ei gŵr hyd at ei marwolaeth yn 1917. Roedd Mary Ashby Lewis yn uchel iawn ei pharch, gan drin gweithwyr yr ystad a'i thenantiaid yn dda. Ni chafodd neb o'r tenantiaid eu bwrw allan wedi etholiad 1868.[4]

Yn ystod y cyfnod pan oedd yr ystad ym meddiant Mary Ashby Lewis, yr oedd dyledion yr ystad wedi bod yn cronni, gan gynnwys £7,874 o'r morgais a gymrodd yr Uwchgapten John Lewis i dalu dyledion ei dad, a'r £28,992 o ddyled yn deillio o fenthyciadau'r darpar-etifedd John Edward Lewes Boultbee, gor-ŵyr y Cyrnol William Lewis, a fu byw'n afradlon, ac a fu farw yn 1885.[5] Pan etifeddodd gor-nai Mary Ashby Lewis, sef Capten Thomas Powell Lewes, yr ystad yn 1919, rhaid oedd gwerthu rhan helaeth o'r ystad er mwyn talu'r dyledion hyn, a threthi a chymunroddion yr ewyllys. Mae'n debyg mai hyn sydd i gyfrif na wnaethpwyd fawr o newidiadau i foderneiddio'r tŷ yn ystod yr 20fed ganrif. Gadawodd mab Capten Lewes, John Powell Ponsonby Lewes y rhan fwyaf o'r ystad, rhyw 1600 o erwau, i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol pan fu farw yn 1989.

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  Llanerchaeron. www.coflein.gov.uk. Adalwyd ar 2014-06-30.
  2.  Llanerchaeron, including rear Service Courtyard Ranges (previously listed as Llanaeron House), Ciliau Aeron. www.britishlistedbuildings.co.uk. Adalwyd ar 2014-06-30.
  3. M. L. Evans, Llanerchaeron: A Tale of 10 Generations 1634-1989, t33 (M. L. Evans) 1996
  4. M. L. Evans, Llanerchaeron: A Tale of 10 Generations 1634-1989, t47 (M. L. Evans) 1996
  5. M. L. Evans, Llanerchaeron: A Tale of 10 Generations 1634-1989, t64 (M. L. Evans) 1996