Llanismel

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llanishmel o Gastell Llansteffan, dros yr aber.

Pentref bychan a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Llanismel (weithiau "Llanishmel"; Saesneg: St Ishmael).[1][2] Fe'i lleolir ar lan aber afon Tywi yn ne'r sir tua 4 milltir i'r gorllewin o dref Cydweli ar ffordd wledig.

Enwir yr eglwys y plwyf a'r pentref ar ôl Sant Ishmel (neu Ishmael).

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,311, gyda 64.38% yn medru Cymraeg. Mae'n cynnwys pentref Glan-y-fferi a'r ardal wledig o'i gwmpas.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]


Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanismel (pob oed) (1,370)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanismel) (548)
  
41%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanismel) (909)
  
66.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llanismel) (247)
  
40.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwefan Enwau Cymru, Canolfan Bedwyr
  2. Defnyddir sillafiad safonol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2008; tud 552
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013

Cysylltiad allanol[golygu]

  • Ystadegau 2001 ar gyfer cymuned Llanishmel, o safle we Cyngor Sir Gâr