Llangadwaladr (Môn)
Oddi ar Wicipedia
Mae Llangadwaladr yn bentref bychan ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Saif ar briffordd yr A4080, ychydig i'r gorllewin o bentref Hermon ac i'r dwyrain o Aberffraw.
Yr adeilad mwyaf nodedig yn y pentref yw'r eglwys. Mae'r adeilad presennol yn dyddio o tua'r 15fed ganrif, ond yn y mur tu mewn i'r eglwys mae carreg fedd Cadfan ap Iago, brenin Gwynedd yn y 7fed ganrif. Yn ôl pob tebyg, ŵyr Cafan, Cadwaladr Fendigaid, yw'r Cadwaladr sy'n cael ei goffáu yn enw'r eglwys a'r pentref. Credir fod Llangadwaladr wedi bod yn fan claddu i frenhinoedd Gwynedd, gan fod prif lys Gwynedd, Aberffraw, heb fod ymhell o'r eglwys, yr ochr arall i Afon Ffraw.
Mae nifer o nodweddion diddorol eraill yn yr eglwys, yn cynnwys ffenestr liw yn dyddio o ddiwedd y 15fed ganrif a roddwyd gan Meurig ap Llywelyn a’i wraig fel diolch am i'w mab Owain ddychwelyd yn ddiogel o Frwydr Bosworth. Mae un o'r ddau gapel hefyd yn rhodd teulu Meyrick, Bodorgan.
[golygu] Cysylltiadau allanol
Eglwys Llangadwaladr (Treftadaeth Ynys Môn)
Aberffraw · Amlwch · Benllech · Bethel · Biwmares · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Caergybi · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachreth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfairpwllgwyngyll · Llanfair-yn-neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangefni · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llanynghenedl · Malltraeth · Marianglas · Moelfre · Niwbwrch · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthaethwy · Porth Llechog · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Trearddur · Trefor · Tregele