Llanfwrog, Ynys Môn

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llanfwrog, Llanfaethlu)
Llanfwrog
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3253°N 4.5519°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Pentref bychan yng nghymuned Llanfaethlu ar Ynys Môn yw Llanfwrog ("Cymorth – Sain" ynganiad ) a leolir yng ngogledd-orllewin yr ynys rhwng Llanfachraeth i'r de a Llanfaethlu i'r gogledd, tua 4 milltir i'r dwyrain o dref Caergybi. Saif y pentref ger yr arfordir tua milltir i'r dwyrain o Draeth y Gribin. Mae ffordd wledig yn ei gysylltu â'r A5025, un filltir i'r dwyrain, a Llanfaethlu, tua 2.5 milltir i'r gogledd. Mae 140.1 milltir (225.4 km) o Gaerdydd a 224.7 milltir (361.7 km) o Lundain.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Llanfwrog gan Sant Mwrog. Yr unig le arall a gysylltir ag enw'r sant hwnnw yw Llanfwrog, Sir Ddinbych. Yn yr Oesoedd Canol roedd Llanfwrog yn blwyf yn gorwedd yng nghwmwd Talybolion yng nghantref Cemais. Roedd yr eglwys yn gapel ('is-eglwys') yn perthyn i reithoriaeth plwyf Llanfaethlu erbyn y 18g.[1]

Cynrychiolaeth etholaethol[golygu | golygu cod]

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Virginia Crosbie (Ceidwadwyr).[3]

Dod o hyd i waywffon Zwlw[golygu | golygu cod]

Yn y 70au cafwyd hyd i'r waywffon "Zwlw" mewn waen perthyn i ffarm Plas Y Glyn gan Richard Hughes Morlais a fyddai yn arfer mynd i dorri coed helyg er mwyn ei defnyddio i gynnal y pys a'r ffa a fyddai yn dyfy yn ei ardd. Cafodd fynd i Brifysgol ym Mangor lle edrychwyd yn fanwl arni gan arbenigwyr yn y maes hwn ,'roeddant yn meddwl mae "Viking Spear" ydoedd a bu rhaid cysylltu ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd ac ar ôl llawer e-bost a lluniau fynd nol a mlaen rhyngddynt penderfynwyd cysylltu gyda Archifau Arfau Brenhinol yn Leeds lle anfonwyd y waywffon er mwyn cael gwneud profion arni ac ymhen ychydig o wythnosau cadarnhawyd mae "Iklwa" oedd hi, gwaywffon drywanu fer a phen hir, oedd yn pertẜhyn i'r Zwlŵaid.

Y cwestiwn yn awr oedd, sut y daeth gwaywffon Affricanaidd i Lanfwrog? Yr ateb a gafwyd, oedd bod yn bosibl iawn mae trwy gysylltiad milwrol y daeth yma, oherwydd roedd nifer fawr o filwyr Cymru, yn cynnwys rhai o Ogledd Cymru, ymysg Catrawd Swydd Warwick a fu'n ymladd yn Ne Affrica yn bennaf ym mrwydr "Rorke's Drift" yn ystod rhyfel "Anglo - Zulu" 1879, daeth nifer ohonynt â gwaywffyn yn ôl fel troffi neu swfenir a bod yn bosibl iawn bod y waywffon yma yn un ohonynt.

Mae'r "Rorke's Drift" ar lan afon "Byfflo" yn Ne Affrica ac yma cymerodd rhyfel Zwlw le ar y 22ain a'r 23ain o Ionawr 1879, ymosododd llu enfawr o Zwlwaid (4500) ar garsiwn bach o Brydain (139) ond cafodd ei ddiarddel yn y pen draw ar ôl mwy na 12 awr o ymladd chwerw.

Yn 2012 bu'r waywffon yn cael ei harddangos gyda llawer o itemau eraill a oedd wedi cael eu darganfod ar Ynys Mon drost y blynyddoedd mewn arddanghosfa yn yr Oriel yn Llangefni. Mae'r waywffon yn 140 oed eleni. (2019)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Atlas Môn (Llangefni, 1972), mapiau tt. 38, 76.
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato