Llanfihangel Llantarnam

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref, plwyf a chymuned yn Nhorfaen yw Llanfihangel Llantarnam, weithiau Llantarnam. Hi yw'r gymuned fwyaf deheuol yn Nhorfaen, ac mae wedi datblygu yn un o faesdrefi Cwmbrân. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 3,299.

Sefydlwyd abaty Sistersaidd Llantarnam yma yn 1179 gan fynachod o Ystrad Fflur dan nawdd Hywel ap Iorwerth, arglwydd Caerllion. Efallai mai yng Nghaerllion y sefydlwyd y fynachlog gyntaf, ond cofnodir ei bod yn Llantarnam erbyn y 13eg ganrif. Roedd yr abad John ap Hywel yn un o brif gefnogwyr Owain Glyndŵr; lladdwyd ef ym Mrwydr Pwllmelyn yn 1405. Yn ddiweddarach, trowyd yr abaty yn blasdy, ac mae'n awr yn gartref i Chwiorydd Sant Joseff. Ceir Croes Llanfihangel Llantarnam yma.

Mae Camlas Sir Fynwy yn rhedeg trwy'r gymuned.


CymruTorfaen.png Eginyn erthygl sydd uchod am Fwrdeistref Sirol Torfaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato