Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 52°39′41″N 3°57′55″W / 52.6613°N 3.96541°W / 52.6613; -3.96541

Llanfihangel-y-pennant (Abergynolwyn)
Eglwys Llanfihangel-y-pennant
Eglwys Mihangel
Llanfihangel-y-Pennant is located in Gwynedd
Llanfihangel-y-Pennant

 Llanfihangel-y-Pennant yn: Gwynedd
Poblogaeth 402 
Cyfeirnod grid yr AO SH671088
Cymuned Llanfihangel-y-Pennant
Prif ardal Gwynedd
Sir seremonïol Gwynedd
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost TYWYN
Rhanbarth cod post LL36
Cod deialu 01654
Yr Heddlu Gogledd Cymru
Tân Gogledd Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Gwynedd

Mae Llanfihangel-y-pennant yn bentref bychan a chymuned yn ne Gwynedd, heb fod ymhell o Abergynolwyn. Saif rhwng Afon Dysynni ac Afon Cadair, ger llethrau deheuol Cadair Idris. Mae Castell y Bere, un o gadarnleoedd tywysogion Gwynedd yn y 13eg ganrif, fymryn tu allan i'r pentref.

Ganed y geiriadurwr a golygydd William Owen Pughe yn y plwyf ar y 7 Awst, 1759.

Yn 1800, cerddodd Mari Jones (neu Mary Jones) 26 milltir o Lanfihangel-y-pennant i'r Bala i brynu Beibl Cymraeg gan y Parchedig Thomas Charles. Ysbrydolodd y digwyddiad yma Thomas Charles i sefydlu y Gymdeithas Feiblaidd Frytanaidd a Thramor.

Cysylltiadau allanol [golygu]