Llanfair-yn-neubwll

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Pentref a chymuned yng ngogledd-orllewin Ynys Môn yw Llanfair-yn-neubwll. Saif y pentref i'r gogledd o Faes Awyr y Fali ac i'r dwyrain o'r culfor rhwng Ynys Môn ac Ynys Cybi.

Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Caergeiliog a Llanfihangel-yn-Nhywyn. Ceir nifer o lynnoedd yn yr ardal, mae Llyn Penrhyn, Llyn Treflesg a rhan o Lyn Dinam yn ffurfio gwarchodfa adar Llynnoedd y Fali, sy'n eiddo i'r RSPB.

Pan adeiladwyd y maes awyr yn 1943, gafwyd hyd i nifer fawr o arfau a chelfi o Oes yr Haearn yn Llyn Cerrig Bach. Ystyrir y darganfyddiad yma yn un o'r rhai pwysicaf o'r cyfnod yma yng Nghymru.

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,688. 45.6% o'r rhain oedd yn medru Cymraeg, y ganran isaf ymhlith cymunedau Ynys Môn; mae hyn oherwydd y nifer fawr o bobl sy'n gysylltiedig a'r maes awyr a'u teuluoedd.