Llaneugrad

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Plwyf a chymuned ar yr arfordir yn nwyrain Ynys Môn yw Llaneugrad. Saif rhwng Moelfre a Benllech, ac mae'n cynnwys pentref Marianglas a bae Traeth Bychan.

Cysegrwyd yr eglwys, sy'n dyddio o'r 12fed ganrif, i Sant Eugrad. Claddwyd nifer o'r rhai a foddodd yn llongddrylliad y Royal Charter yn y fynwent. Bu trychineb forwrol arall ger Traeth Bychan yn 1939, pan fethodd y llong danfor Thetis a dychwelyd i'r wyneb.

Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 273.

Olion hynafol[golygu]

Ceir clystyrau cytiau caeëdig Caerhoslligwy‎ gerllaw, sy'n dyddio yn ôl i Oes yr Efydd.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llaneugrad (pob oed) (254)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llaneugrad) (105)
  
42%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llaneugrad) (106)
  
41.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llaneugrad) (62)
  
48.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Dolen allanol[golygu]