Llanelli Wledig

Oddi ar Wicipedia
Llanelli Wledig
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth22,800 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd6,211.56 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.68°N 4.16°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000988 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholCyngor Gwledig Llanelli Edit this on Wikidata
AC/auLee Waters (Llafur)
AS/auNia Griffith (Llafur)
Map

Cymuned yn Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Llanelli Wledig. Ymestynna'r gymuned tua'r gogledd-orllewin a'r gogledd ddwyran o dref Llanelli, ac mae'n cynnwys maesdrefi Felinfoel, Dafen, Ffwrnes, Llwynhendy, Pwll, Cwmcarnhywel, Bynea a Dyffryn y Swistir, yn ogystal â phentrefi Pont-iets, Pont Henri a Pump-heol.

Mae'r gymuned yn cynnwys cronfeydd dŵr Cwm Lliedi a Lliedi Uchaf, sy'n daparu dŵr i Lanelli, a saif Canolfan Gwlyptir Genedlaethol Cymru, Penclacwydd o fewn y gymuned. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 21,043, gyda 54.45% yn medru Cymraeg.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lee Waters (Llafur)[1] ac yn Senedd y DU gan Nia Griffith (Llafur).[2]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanelli Wledig (pob oed) (22,800)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanelli Wledig) (7,084)
  
32.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanelli Wledig) (19184)
  
84.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llanelli Wledig) (3,866)
  
40.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]