Llandysilio, Powys

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Llandysilio (Powys))
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Tysilio, Llandysilio.

Pentref a chymuned ym Mhowys, yw Llandysilio . Saif yn yr hen Sir Drefaldwyn, ar lan dwyreiniol Afon Efyrnwy a ger y briffordd A483 rhwng Croesoswallt a'r Trallwng. Mae bron ar y ffîn a Lloegr.

Dyddia'r eglwys, sydd wedi ei chysegru i Sant Tysilio, o 1868, ond awgryma'r fynwent gron fod y safle yn un hynafol.

Heblaw pentref Llandysilio, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Four Crosses. Ceir bryngaer Bryn Mawtr o fewn y gymuned, a gweddillion castell mwnt a beili yn Four Crosses. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 962.

Enwogion [golygu]

  • Elias Owen (1833 - 1899), hynafiaethydd a chasglwr llên gwerin Cymreig, awdur Welsh Folklore (1899).