Llanddewibrefi

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 52°10′47″N 3°57′24″W / 52.1796°N 3.9568°W / 52.1796; -3.9568

Llanddewibrefi
Llanddewi-Brefi Village - The New Inn.jpg
Llanddewi Brefi
Llanddewi Brefi is located in Ceredigion
Llanddewi Brefi

Llanddewi Brefi Ceredigion
Cyfeirnod grid yr AO SN662553
Sir Ceredigion
Sir seremonïol Dyfed
Gwlad Cymru
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Yr Heddlu Dyfed-Powys
Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
Ambiwlans Cymru
Senedd yr Undeb Ewropeaidd Cymru
Rhestr llefydd: y DU • Cymru • Ceredigion
Gweler hefyd Llanddewi.

Pentref a chymuned yng nghanol cefn gwlad Ceredigion a sefydlwyd tua'r chweched ganrif yw Llanddewibrefi.[1] neu Llanddewi Brefi. Fe'i lleolir ar y B4343 tua 4 milltir i'r de o Dregaron yn ne-ddwyrain Ceredigion. Mae tua 500 o bobl yn byw yno.

Gelwir y pentref yn Llanddewi Brefi am ei fod yn sefyll ar lan Afon Brefi, un o ledneintiau Afon Teifi.

Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi

Er nad yw'n lle mawr, mae gan Llanddewi Brefi ran bwysig yn hanes Cristnogaeth yng Nghymru. Yn ôl traddodiad, cynhaliodd Dewi Sant, nawddsant Cymru, Synod Brefi yno. Rhoddodd hynny enw'r pentref ac mae eglwys y plwyf, sy'n dyddio o'r ddeuddegfed ganrif, yn arddangos cerflun ohono. Fe adeiladwyd yr eglwys ar dwyn, lle dwedir y cafodd y ddaear ei chodi'n wyrthiol dan draed Dewi Sant, er mwyn caniatáu iddo gael ei glywed yn glirach gan y bobl ymgynnulledig.

Hawliodd Llanddewi Brefi sylw'r cyfryngau ar ddechrau'r 2000au yn sgil y rhaglen gomedi Little Britain ar y BBC a'r cymeriad Daffyd (sic), yr unig ddyn hoyw yn y pentref. Am gyfnod, bu nifer o wylwyr y rhaglen yn mynd i'r pentref i gael tynnu llun ger yr arwydd i mewn a chafodd hwnnw ei ddwyn sawl gwaith gan ffans o'r gyfres.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanddewibrefi (pob oed) (640)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanddewibrefi) (347)
  
56%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanddewibrefi) (334)
  
52.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Llanddewibrefi) (104)
  
35%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
  1. Defnyddir sillafiad Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru a Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; cyhoeddwyd 2008; tud 549
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013