Llanddewi Cil Peddeg
Pentre fechan yn Swydd Henffordd yw Llanddewi Cil Peddeg (Saesneg: Kilpeck). Saif tua 9 milltir o Henffordd, i'r de o ffordd yr A465 i'r Fenni, a thua 5 milltir o ffin Cymru a Lloegr. Y mae'n adnabyddus am ei heglwys blwyf wedi'i gysegru at y saint Mair a Dewi, sydd yn enghraifft blaenllaw o bensaernïaeth Normanaidd (neu Romanesg). Adeiladwyd hi tua 1140. Bu hefyd castell mwnt a beili Normanaidd ar y safle ond nid yw hynny bellach yn sefyll.
Hyd at y nawfed ganrif, pan gorchfygwyd yr ardal o'i amgylch gan Mercia, bu'r pentref yn ran o deyrnas Ergyng. Wedi'r Concwest Normanaidd daeth yr ardal i gael ei alw'n Archenfield ac fe'i lywodraethwyd fel rhan o'r Mers. Daeth yn ran o Swydd Henffordd yn yr 16eg ganrif, ond parhaodd defnydd o'r Gymraeg yno hyd at y 19eg ganrif.
Gweler hefyd [golygu]
Trefi
Llanllieni · Rhosan ar Wy
Pentrefi
Clifford · Clodock · Dilwyn · Ewyas Harold · Kentchurch · Longtown · Lower Hergest · Llanddewi Cil Peddeg · Llanveynoe · Symonds Yat · Upper Hergest · Weston under Penyard