Llan-ddew

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llanddew)
Llan-ddew
Eglwys Dewi Sant, Llan-ddew
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth232 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd916.69 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.9671°N 3.3763°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000290 Edit this on Wikidata
Map

Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Llan-ddew[1] neu Llanddew. Saif fymryn i'r gogledd o dref Aberhonddu. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 246.

Ceir olion castell mwnt a beili yma, a adeiladwyd tua 1090 gan Roger Peyton. Roedd Llanddew yn safle clas neu fynachlog Geltaidd, ac yn ddiweddarach adeiladodd Esgob Tyddewi balas yma yn y 12g. Bu Gerallt Gymro yn byw yma pan oedd yn Archddiacon Brycheiniog. Dyddia cangell yr eglwys o'r 13g.

Adfeilion Palas yr Esgob, Llan-ddew

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llan-ddew (pob oed) (232)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llan-ddew) (40)
  
17.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llan-ddew) (160)
  
69%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llan-ddew) (35)
  
34.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwyddoniadur Cymru; Gwasg Prifysgol Cymru; Cyhoeddwyd 2007; tud. 525
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.