Llanddeusant (Ynys Môn)

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Gweler hefyd Llanddeusant (Sir Gaerfyrddin) a Llanddeusant (gwahaniaethu).

Lleolir pentref a phlwyf Llanddeusant, Ynys Môn, i'r gogledd o Afon Alaw ac i'r gorllewin o gronfa ddŵr Llyn Alaw. Un o atyniadau nodweddiadol y pentref yw Melin Llynnon, yr unig felin wynt sy'n parhau i weithio a chynhyrchu blawd yng Nghymru heddiw. Yn ogystal, mae yna felin ddŵr yn y pentref ar lan Afon Alaw, o'r enw Melin Howell.

Mae Ysgol Llanddeusant yn y pentref ers 1847, ond bydd yn cael ei chau yn 2009.

[golygu] Enwogion

  • Robert ap Huw (1580 - 1665), telynor enwog, bardd ac awdur llawysgrif bwysig ar gerddoriaeth gynnar Cymru, a aned ym Modwigan, ym mhlwyf Llanddeusant.

[golygu] Dolenni allanol

[golygu] Gweler hefyd


CymruMon.png Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato