Llan-non, Sir Gaerfyrddin

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gweler hefyd: Llannon

Pentref a chymuned yn Sir Gaerfyrddin yw Llan-non. Saif ar y briffordd A476 rhwng Llanelli a'r Tymbl.

Yn weinyddol, mae Cymuned Llannon hefyd yn cynnwys pentrefi Cross Hands a'r Tymbl. Fe'ir ystyrir yn bentref amaethyddol mewn ardal lofaol. Ceir un eglwys sef yr Eglwys Santes Non ac un capel y Bedyddwyr, sef Hermon. Mae dau dafarn yn y pentref, Tafarn y Llew Coch a Thafarn y Milgi. Gwasanaethir y pentref gan un ysgol gynradd categori A, sy'n bwydo Ysgol Gyfun Maes-yr-yrfa.

Cysylltir y pentref â Helyntion Beca. Ar gyrion y pentref y mae fferm "Gelliwernen" lle digwyddodd un o derfysgoedd Beca. Erys tollborth yn y pentref ac uwchlaw Llannnon, ar fynydd Sylen y cynhaliwyd un o gyfarfodydd enwocaf Merched Beca. Dyma ardal Jac Tŷ Isha, un o arweinwyr enwocaf y terfysgoedd. Seiliwyd sioe gerdd ar ei fywyd.


CymruCaerfyrddin.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Gaerfyrddin. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato