Lithwaneg

Oddi ar Wicipedia

Iaith Faltig Ddwyreiniol yw'r Lithwaneg a siaredir yn bennaf yn Lithwania gan y Lithwaniaid. Mae ganddi dros 3 miliwn o siaradwyr brodorol, 2.8 miliwn ohonynt yn Lithwania.[1]

Hi yw'r iaith fwyaf "hynafaidd" o'r holl ieithoedd Indo-Ewropeaidd byw, hynny yw hon yw'r iaith sydd wedi newid lleiaf yn ystod ei hanes. O ganlyniad mae gan y Lithwaneg nifer o nodweddion yr iaith Broto-Indo-Ewropeg.[2]

Mae Lithwaneg yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.

Dywediadau[golygu | golygu cod]

Helô: Labas (i gyfarch rhywun a adnabyddir). Sveikas (i gyfarch dyn). Sveika (i gyfarch merch). Sveiki (i gyfarch mwy na un person). Sveikos (i gyfarch mwy nag un ferch).

Sut wyt ti?: Kaip tau sekasi?/Kaip sekasi?/Kaip tau? (anffurfiol).

Bore da: Laba diena.

Prynhawn da: Labas rytas.

Noswaith dda: Labas vakaras.

Nos da: Labos nakties/Labanaktis (defnyddir cyn mynd i'r gwely).

Diolch!: Ačiū!/Dėkui!.

Pwy 'dych chi?: Kas esate?/Kas jūs?.

Fy enw yw...: Mano vardas yra.../Mano vardas...

Dw i'n byw yng Nghymu: Gyvenu Valijoje.

Dw i ddim yn deall: Aš jūsų nesuprantu.

Mae'r drwg gyda fi: Atsiprašau.

Ble mae...?: Kur...?/Kur yra...?

Iawn: Gerai.

Ydych chi'n medru Saesneg? Ar mokate angliškai?

Dw i ddim yn gallu siarad Lithwaneg: Nemoku lietuviškai šnekėti.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Lithuanian. Ethnologue (2012). Adalwyd ar 27 Awst 2014.
  2. (Saesneg) Lithuanian language. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Awst 2014.