Lithwaniaid

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Lithiwaniad)
Neidio i: llywio, chwilio
Lithiwaniaid
Traditional Lithuanian dress.jpg
Merched mewn gwisg Lithwanaidd draddodiadol.
Cyfanswm poblogaeth
c. 6 miliwn
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol
Lithwania, Gwlad Pwyl, Latfia, Rwsia, Belarus, Unol Daleithiau America, Iwerddon, Sbaen, y Deyrnas Unedig, yr Ariannin, Brasil, Colombia, Awstralia, Yr Almaen, Norwy, Sweden, Kazakhstan, Ukrain, Canada
Ieithoedd
Lithwaneg
Crefydd
Catholig
Grwpiau ethnig perthynol
Latfiaid ac i raddai llai Belorwsiaid

Grŵp ethnig Faltig yw'r Lithwaniaid (Lithwaneg: lietuviai) sy'n frodorol i Lithwania, gwlad ar arfordir de-ddwyrain y Môr Baltig, ac yn siarad yr iaith Lithwaneg. Y Lithwaniaid, y Latfiaid a'r Hen Brwsiaid (sydd bellach wedi darfod) yw'r pobloedd Balto-Slafig.

Roedd hanes gwleidyddol y Lithwaniaid ynghlwm â hanes gwleidyddol y Pwyliaid am ganrifoedd, yn sgil uno Teyrnas Gwlad Pwyl a Dugiaeth Fawr Lithwania ym 1569 gan ffurfio'r Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd. Erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif roedd y mwyafrif o Lithwaniaid yn byw dan Ymerodraeth Rwsia. Cafodd Lithwania ei feddiannu gan yr Almaen yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, ac enillodd Lithwania annibyniaeth yn ystod y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, er bod Vilnius dan reolaeth Gwlad Pwyl am y mwyafrif o'r cyfnod hwnnw. Cafodd ei goresgyn gan y Sofietiaid a'r Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a'i chyfeddiannu gan yr Undeb Sofietaidd ym 1940. Lithwania oedd y weriniaeth Sofietaidd gyntaf i ddatgan ei hannibyniaeth a hynny ym 1990, ond ni enillodd ei hannibyniaeth tan fis Medi 1991. Bellach mae'r wlad yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd a NATO.

Prif nodweddion diwylliant y Lithwaniaid yw llenyddiaeth Lithwaneg, coginiaeth Lithwanaidd, a thraddodiad cerddorol sy'n cynnwys yr offeryn kanklės a'r caneuon gwerin sutartinė. Mae'r mwyafrif o Lithwaniaid yn Babyddion, ac roedd Catholigiaeth yn bwysig wrth ddiogelu'r hunaniaeth genedlaethol dan reolaeth Sofietaidd.[1] Mae gan y Lithwaniaid hefyd nifer o draddodiadau a ddylanwadwyd gan baganiaeth,[1] ac yn hanesyddol bu poblogaeth fawr o Lithwaniaid Iddewig. Cyn yr Ail Ryfel Byd roedd rhyw 7% o boblogaeth Lithwania yn Iddewon (160,000 o bobl),[2] a bu farw 96% ohonynt yn ystod yr Holocost.[3]

Ymfudodd nifer o Lithwaniaid pan oedd eu gwlad dan reolaeth Ymerodraeth Rwsia a'r Undeb Sofietaidd. Yn y cyfnod o 1868 hyd 1914, ymfudodd tua chwarter o'r holl Lithwaniaid o ganlyniad i dwf poblogaeth, trethi uchel, a chwymp mewn pris grawn.[4] Roedd ymfudwyr Lithwanaidd yn aml yn gweithio mewn diwydiannau trwm, yn y pyllau neu ar y dociau. Ceir cymunedau Lithwanaidd mawr yn yr Unol Daleithiau, Canada,[5] yr Alban,[4] a Brasil. Ymfudodd nifer o Lithwaniaid ar draws Ewrop wedi i Lithwania ymaelodi â'r UE yn 2004, a heddiw mae cymuned o 200,000 yn byw yn y Deyrnas Unedig.[6]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Lithuania profile. BBC (27 Tachwedd 2012). Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
  2. (Saesneg) Lithuania. United States Holocaust Memorial Museum. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
  3. (Saesneg) Zuroff, Efraim (24 Medi 2012). Remembering the Lithuanian Jews killed by their neighbors. Haaretz. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) Rodgers, Murdoch (1985). The Lithuanians. History Today. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
  5. Danys, Milda. Lithuanian Immigration to Canada After the Second World War (Multicultural History Society of Ontario, Toronto, 1986).
  6. (Saesneg) The Lithuanian Community in the UK. University College London. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.