Lithwania
|
|||||
| Arwyddair: Vienybė težydi (Lithwaneg) "Gadewch i undod ffynnu" |
|||||
| Anthem: Tautiška giesmė | |||||
| Prifddinas | Vilnius | ||||
| Dinas fwyaf | Vilnius | ||||
| Iaith / Ieithoedd swyddogol | Lithwaneg | ||||
| Llywodraeth | Democratiaeth seneddol | ||||
| - Arlywydd | Dalia Grybauskaitė |
||||
| - Prif Weinidog | Andrius Kubilius |
||||
| Annibyniaeth - Datganwyd - Datganwyd - Cydnabuwyd |
O'r Ymerodraeth Rwsaidd 16 Chwefror, 1918 O'r Undeb Sofietaidd 11 Mawrth, 1990 6 Medi, 1991 |
||||
| Esgyniad i'r UE | 1 Mai 2004 | ||||
| Arwynebedd - Cyfanswm - Dŵr (%) |
65 300 km² (123fed) dibwys |
||||
| Poblogaeth - Amcangyfrif 1996 - Dwysedd |
3 392 000 (131fed) 53/km² (144fed) |
||||
| CMC (PGP) - Cyfanswm - Y pen |
Amcangyfrif 2005 $49.49 biliwn (75ain) $14 158 (49ain) |
||||
| Indecs Datblygiad Dynol (2004) | 0.857 (39ain) – uchel | ||||
| Arian cyfred | Litas (Lt) (LTL) |
||||
| Cylchfa amser - Haf |
EET (UTC+2) EEST (UTC+3) |
||||
| Côd ISO y wlad | .lt | ||||
| Côd ffôn | +370 |
||||
Gweriniaeth yng ngogledd-ddwyrain Ewrop yw Lithwania (hefyd weithiau Lithuania, yn swyddogol Gweriniaeth Lithwania; ceir y ffurf Llethaw mewn un geiriadur Cymraeg[1]). Saif ar lan y Môr Baltig. Un o'r Gwledydd Baltig yw Lithwania, ynghyd ag Estonia a Latfia. Mae Lithwania yn ffinio â Latfia i'r gogledd, â Belarws i'r de-ddwyrain, ac â Gwlad Pwyl a Kaliningrad Oblast, sy'n ran o Rwsia, i'r de-orllewin. Daeth Lithwania yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Mai 2004.
Cynnwys |
Hanes Lithwania[golygu]
Prif-bwyntiau Hanes Lithwania
10 Ganrif -Llywthau Lithwnaiad-Prwsiaid paganaid
980au -Cristnogaeth yn dod i gymdogion y Lithwaniaid-Prwsiaid
997 -Merthyrdod St Adalbert ym Mrwsia
1007 - Son cyntaf am Lithwania mewn dogfen
1147 - Croesgad cyntaf yn erbyn paganiaid Baltaidd - tranc y Prwsiaid
1200 - Ail groesgad yn erbyn y Lithwaniaid
1215 Esgob cyntaf y Lithwaniaid ond y wlad yn bagan o hyd
1219 Mindaugas -Brenin cyntaf y Lithwaniaid 1219-63
1236 Lithwaniaid yn gorfygu y croesgadwyr ym mrwydr Siaulai
1315 Gediminas yn arwain Lithwania 1315-41
1385 Jogaila yn cael ei bedyddio, Lithwania yn troi yn Gristnogol a ffurfio Brenhiniaeth Lithwania-Pwyl
1410 Lithwania-Pwyl yn trechu'r Almaenwyr ym mrwydr Grunwald. Ffyniant y wlad.
1569 Lithwania-Pwyl yn ffurfio "Cymanwlad"
16C Twf Rwsia a Sweden yn raddol dileu tiroedd y Lithwaniaid, mae'r wlad yn cael ei rhannu dro ar ol tro dros y dair canrif wedyn. Adnabyddir y cyfnod yn well fel "rhaniad triphlyg Pwyl"
19C Lithwania dan Ymerodraeth Rwsia, mudiad am annibynniaeth yn egino
1918- 1939 - Ar 16/02/1918 mae'r Lithwaniaid yn datgan annibynniaeth, ond y Pwyliaid yn cymryd Vilnius ym 1919. Kaunas yn Brifddinas. Cyfnod annibynnol yn symud at unbenaeth
1940 - Meddianu Lithwania gan y Rwsiaid (Sofietaidd)
1940-44 - Meddianu Lithwania gan y Natsiaid
1944-89 Meddianu Lithwania gan y Rwsiaid (Sofietaidd) fel Gweriniaeth Sofiet gyda Vilnius yn brifddinas
1990 Ar 11/03 1990 mae'r Lithwaniaid yn datgan annibynniaeth.
2004 Ymuno a NATO 2004 a'r Undeb Ewropeaidd
2007 Ymuno a Chytundeb Schengen
Hanes Fodern[golygu]
Mae hanes fodern Lithiwania ynglwm wrth hanes y cenhedloedd mawr yn yr Ugeinfed ganrif. Gyda chwymp ymerodraeth yr Almaen ym 1918 daeth hi, a'i chymdogion Estonia a Latfia, yn rhydd ac yn genhedloedd annibynnol. Daeth hyn i ben dan y gytundeb rhwng Rwsia a'r Almaen ym 1939. Yn ystod y rhyfel meddiannwyd y wlad gan y Natsiaid a bu farw 190,000 o ddinasyddion Iddewig Lithwania. Wedi'r rhyfel aeth y wlad i fewn i'r Undeb Sofietaidd tan 1991. O 1944 tan 1952 roedd byddin cudd gwrth-Sofiet yn y wlad a charcharwyd miloedd o Lithwaniaid yn y Gwlagau. Ers ei hannibyniaeth symudodd y wlad tuag at Ewrop, ymunodd a'r UE a NATO a bu ffyniant economaidd. Ond gydag agor y drysau i allfudo gadawodd miloedd o bobl ifainc am Brydain ac yr Almaen.
Ethnigrwydd[golygu]
Mae poblogaeth Lithwania yn amrywio (mae'r ffigyrau swyddogol yn cynnwys pobl sy'n byw tramor) ond honnir bod 3,349,900, 84.0% o'r rhain yn Lithwaniaid ethnig sy'n siarad yr iaith Lithwaneg sef unig iaith swyddogol y wlad. Mae lleiafrifoedd eraill yn cynnwys Pwyliaid (6.1%), Rwsiaid (4.9%) a Belarwsiaid (1.1%), yn ôl "Department of Statistics to the Government of the Republic of Lithuania".[2]
Ffigyrau 2010 yn dangos:
- Lithwaniaid – 83.1% (2,765,600)
- Pwyliaid – 6.0% (201,500)
- Rwsiaid – 4.8% (161,700)
- Belarwsiaid – 1.1% (35,900)
- Ukrainiaid – 0.6% (19,700)
- Almaenwyr – 0.1% (3,200)
- Iddewon – 0.1% (3,200)
- Tatariaid – 0.1% (2,800)
- Latfiaid – 0.1% (2,300)
- Roma – 0.1% (2,400)
- Eraill – 0.2% (8,200)
- Heb ddweud – 3.7% (122,500)
Cyfeiriadau[golygu]
- ↑ The Pocket Modern Welsh Dictionary
- ↑ Yr etholiadau
- "The Northern Crusades". Eric Christiansen. Penguin. 1997. (Hanes y Gwledydd Baltaidd)
- "Pe Bai Cymru'n Rhydd". Gwynfor Evans. Y Lolfa. 1989. Pennod ar y Gwledydd Baltaidd.
- "Lithuania". Encyclopedia Britannica. darllenwyd 9 Hydref 2010.
- "Population by ethnicity 2009 year". DB1.stat.gov.lt. Statistics Lithuania. darllenwyd 20 Ionawr 2010.
- Statistics Lithuania
|
|
|
|---|---|
| Aelodau | Albania · Yr Almaen · Gwlad Belg · Bwlgaria · Canada · Croatia · Denmarc · Y Deyrnas Unedig · Yr Eidal · Estonia · Ffrainc · Groeg · Hwngari · Gwlad yr Iâ · Yr Iseldiroedd · Latfia · Lithwania · Lwcsembwrg · Norwy · Portiwgal · Gwlad Pwyl · Rwmania · Sbaen · Slofacia · Slofenia · Y Weriniaeth Tsiec · Twrci · Yr Unol Daleithiau |
| Ymgeiswyr | Bosnia a Hercegovina · Georgia · Gweriniaeth Macedonia · Montenegro · Wcráin |
