LineageOS

Oddi ar Wicipedia
LineageOS

Sgrin gartref LineageOS 14.1 yn Gymraeg
Cwmni / datblygwr Cymuned cod-agored LineageOS
Rhaglennir gyda C (craidd), C++ (rhai llyfrgelloedd tryddydd parti), Java (Rhyngwyneb defnyddiwr)
Teulu SW Debyg i Unix
Cyflwr gweithio Gweithredol
Model ffynhonnell Cod agored
Rhyddhad sefydlog diweddaraf LineageOS 16 answyddogol, yn seiliedig ar Android Pie(9.0)
Targed marchnata Cadarnwedd amgen ar gyfer dyfeisiau symudol Android
Dull diweddaru Fflachio ROM, OTA (Over-the-air programming)
Rheolwr pecyn APK yn seiliedig ar ystorfeydd opsiynol megis F-Droid, Amazon Appstore neu Google Play (os wedi'u gosod)
Platfformau wedi eu cynnal ARM, ARM64, x86, x86-64
Math o gnewyllyn Monolithic (Linux)
Trwydded Dan amryw drwydded; gellir eu gweld fesul repo ar GitHub dan ffeiliau NOTICE/LICENSE
Gwefan swyddogol lineageos.org

Mae LineageOS yn system weithredu cod-agored ac am ddim ar gyfer dyfeisiau symudol, megis ffonau a llechi, ar blatfform Android.

Rhagflaenydd LineageOS oedd CyanogenMod, a ddaeth i ben yn Rhagfyr 2016 pan benderfynodd CyanogenMod Inc roi'r gorau i'r prosiect. Gan fod y prosiect yn god agored, fe'i parhawyd i'w datblygu gan y gymuned dan yr enw newydd, LineageOS. Erbyn Medi 2018, roedd LineageOS ar gael yn rhyngwladol ar gyfer dros 180 o ddyfeisiau gan 24 gwahanol gwneuthurwr.[1]

Hanes fersiynau[golygu | golygu cod]

Fersiwn LineageOS Fersiwn Android Dyddiad rhyddhau adeiledd cyntaf Dyddiad rhyddhau adeiledd olaf Cefnogaeth
Old version, no longer supported: 13 Android 6.0.1
(Marshmallow)
22 Ionawr 2017 11 Chwefror 2018 Ni chefnogir bellach
Old version, no longer supported: 14 Android 7.1.2
(Nougat)
22 Ionawr 2017 24 Chwefror 2019 Ni chefnogir bellach
Old version, no longer supported: 15.1 Android 8.1.0
(Oreo)
26 Chwefror 2018 28 Chwefror 2019 Ni chefnogir bellach
Older version, yet still supported: 16 Android 9
(Pie)
1 Mawrth 2019 (Cyfredol) Cefnogir
Current stable version: 17.1 Android 10 1 Ebrill 2020 (Cyfredol) Cefnogir

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Devices". LineageOS Wiki. Cyrchwyd 20 Medi 2020.