Trosol

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Lifar)
Trosol
Mathteclyn neu beiriant syml Edit this on Wikidata
Yn cynnwysbeam, fulcrum Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mewn ffiseg, gwrthrych anhyblyg a ddefnyddir gyda ffwlcrwm addas neu bwynt colyn i luosi'r grym mecanyddol a roddir ar wrthrych arall yw trosol neu lifer (a ddaw o'r Ffrangeg: lever; "i godi", a levant). Mae'r trosoledd hyn hefyd yn fantais mecanyddol, ac yn un o'r enghreifftiau o'r egwyddor symudiad. Mae trosol yn un o'r chwe peiriant syml.

Mae egwyddor lifer yn dweud wrthym bod yr uchod yn ecwilibriwm statig efo pob grym yn cydbwysol os mae F1D1 = F2D2.
Gellir defnyddio trosol i roi llawer o rym dros bellter byr, drwy roi ychydig o rym dros bellter pellach ar ben arall y trosol.

Gwahanol fathau[golygu | golygu cod]

  • trosol ffwlcrwm
  • trosol llwyth
  • trosol colynnog ('pivot lever')
  • trosol gwrthiant ('resistance lever')
  • trosol o'r radd flaenaf
  • trosol o'r ail radd
Eginyn erthygl sydd uchod am ffiseg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.