Lichfield
Dinas fechan yng nganolbarth Lloegr yw Caerlwytgoed (Lladin Letocetum) (Saesneg Lichfield). Fe'i lleolir yn Swydd Stafford, 25 km (14 milltir) i'r gogledd o Birmingham. Mae'n enwog am ei chadeirlan. Mae'n bwysig fel canolfan eglwysig, er nad yw wedi datblygu fel canolfan ddiwydiannol. Ei phoblogaeth yw 27,900 (Cyfrifiad 2001).
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Daw enw Lichfield o'r Frythoneg *Leitocaiton, enw yn cynnwys elfennau cytras â'r geiriau Cymraeg cyfoes llwyd a coed. Benthyciwyd yr enw hwn gan y Rhufeiniaid fel y Lladin Letocetum, a ddatblygodd i elfen gyntaf yr enw modern. Ychwanegwyd yr elfen field mewn Saesneg Canol. Cyfeirir at y ddinas ym marddoniaeth Hen Gymraeg fel Caer Lwytgoed, yn adlewyrchu tarddiad yr enw (Williams 1945: 6).
Cedwir Llyfr Sant Chad, llawysgrif Ladin sy'n cynnwys y darn hynaf Cymraeg ysgrifenedig mewn llyfr sydd wedi goroesi, yng nghadeirlan Caerlwytgoed.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Amgueddfa Samuel Johnson
- Eglwys gadeiriol
- Palas yr esgob
- Theatr Garrick
- Tŷ Erasmus Darwin
Enwogion [golygu]
- Elias Ashmole (1617-1692), hanesydd a gwleidydd
- Samuel Johnson (1709-1784), awdur
- Richard Allinson (g. 1958), cyflwynwr radio
Gweler hefyd [golygu]
Ffynonellau [golygu]
- Ifor Williams, Enwau lleoedd (Gwasg y Brython, Lerpwl, 1945).