Leyte
Oddi ar Wicipedia
Un o ynysoedd y Pilipinas yw Leyte. Mae'n un o ynysoedd Visayas, a said i'r de-orllewin o ynys Samar ac i'r gogledd-ddwyrain o Mindanao.
Mae gan yr ynys arwynebedd o 7,214 km², ac roedd y boblogaeth yn 2000 yn 1.5 miliwn. Hi yw seithfed ynys y Pilipinas o ran maint. Mae dau grŵp ethnig yn frodorion o'r ynys, y Cebuanos yn y de a'r gorllewin, a'r Waray yn y gogledd a'r dwyrain.
O'r gorllewin o'r ynys mae Gwlff Leyte, lle bu brwydr forwrol bwysig yn ystod yr Ail Ryfel Byd.