Lewis Gilbert

Oddi ar Wicipedia
Lewis Gilbert
Ganwyd6 Mawrth 1920 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw23 Chwefror 2018 Edit this on Wikidata
Monaco Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, ysgrifennwr, cyfarwyddwr, cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Cyfarwyddwyr, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilmiau Seisnig yw Lewis Gilbert CBE (6 Mawrth 192023 Chwefror 2018). Ganwyd Gilbert yn Llundain a dechreuodd ei yrfa yn actio mewn ffilmiau tra'r oedd yn blentyn yn y 1920au a'r 1930au. Symudodd ymlaen i ffilmio ffilmiau dogfen ar gyfer yr RAF yn ystod yr Ail Rhyfel Byd. Daeth Gilbert yn enwocach yn y 1950au trwy gyfarwyddo cyfres o ffilmiau llwyddiannus am yr Ail Ryfel Byd.

Ym 1966 cyfarwyddodd Gilbert y ffilm Alfie yn serennu Michael Caine. Dywedodd Gilbert y chynhyrchwyd y ffilm ar gyllid bach iawn, sef yn ei eiriau ei hun "the sort of money Paramount executives normally spend on cigar bills". Enwebwyd y ffilm am bump o Wobrau'r Academi gan gynnwyd y Ffilm Orau. Enwebwyd y ffilm am Golden Globe am y Cyfarwyddwr Gorau ac ail-grëwyd y ffilm yn 2004 yn serennu Jude Law.

Perswadiwyd ef hefyd gan Harry Saltzman ac Albert R. Broccoli i gyfarwyddo'r ffilm You Only Live Twice o'r gyfres James Bond ym 1967. Dychwelodd Gilbert i gyfarwyddo dwy ffilm arall hefyd sef The Spy Who Loved Me ym 1977 a Moonraker ym 1979.

Yn ystod y 1980au, dychwelodd Gilbert i weithio ar ddramâu llai eu maint gyda'r ffilmiau llwyddiannus Educating Rita (1983) a Shirley Valentine (1989).

Cyfarwyddwr[golygu | golygu cod]

Ffilmiau[golygu | golygu cod]