Lewis Carter-Jones

Oddi ar Wicipedia
Lewis Carter-Jones
Ganwyd17 Tachwedd 1920 Edit this on Wikidata
Bu farw26 Awst 2004 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 48fed Llywodraeth y DU, Aelod o 47fed Llywodraeth y DU, Aelod o 46ed Llywodraeth y DU, Aelod o 45ed Llywodraeth y DU, Aelod o 44ydd Llywodraeth y DU, Aelod o 43ydd Llywodraeth y DU Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Gwleidydd ar ran y Blaid Lafur yn Swydd Gaerhirfryn oedd Lewis Carter-Jones[1] (17 Tachwedd 192026 Awst 2004) am ran helaeth o'i oes, ond fe'i ganwyd yng Nghymru ar ddechrau Canrif 20. Mabwysiadodd y cyfenw cyfenw Carter-Jones ar ól gadael De Cymru.[2]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd Lewis ar 17 Tachwedd 1920 yn y Gilfach Goch, yn y Rhondda, yn fab i Tom Jones, Mynyddcynffig, Penybont-ar-Owgr, a adawodd ei waith yn y pyllau glo i fod yn asiant yswiriant. Derbyniodd Lewis ei addysg gynnar yn ysgol y cyngor, Mynyddcynffig ac yn Ysgol Ramadeg Penybont-ar-Ogwr, cyn mynychu Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn y 30au hwyr. Llwyddodd i ennill gradd BA Anrhydedd mewn economeg yno a diploma mewn addysg, gan ragori mewn pob math o weithgareddau myfyrwyr a chwaraeon, colegol a sirol. Tra yn Wrecsam, yn Ysgol Ramadeg Iál, daeth yn bennaeth yr adran astudiaethau busnes. Pan ddaeth yr Ail Rhyfel Byd, aeth i wasanaethu gyda'r Awyrlu Brenhinol lle bu'n awyr-ringyll (llyw-wr). Dechreuodd ei ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth tua'r adeg yma ac ymunodd á'r Blaid Lafur yn 1940 ac ymaelodi ag Undeb y Gweithwyr Trafnidiol a Chyffredinol hefyd.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Safodd fel ymgeisydd yn is-etholiad Caer yn 1956, yn aflwyddiannus; bu hefyd yn aflwyddiannus yn etholiad cyffredinol 1959. Sicrhaodd fuddugoliaeth i'r Blaid Lafur yn etholiad 1964 fodd bynnag, pan etholwyd ef yn Aelod Seneddol dros Eccles yn Swydd Gaerhirfryn, yn ystod cyfnod cyntaf Harold Wilson fel Prif Weinidog, a llwyddodd i gadw ei sedd yn rheolaidd hyd at 1987 pan ymddeolodd o'r Senedd.

Tra'n Aelod Seneddol, ac ers llawer cyn hynny, cyflawnodd lawer ar gyfer pobl anabl, yn enwedig y rhai a anafwyd mewn rhyfel; bu'n gadeirydd y corff ymchwil Possum Research Foundation a'r Pwyllgor Ymchwil Cymorth i'r Anabl, gan gyfrannu tuag at lwyddiant Mesur y Cleifion Cronig a'r Anabl yn 1969. Yn ystod yr ugain mlynedd ers 1966, fel ysgrifennydd y Grwp Seneddol Indo-Brydeinig, datblygodd ei ddiddordebau i gynnwys ymweliad á Cholumbia ar ran yr Undeb Rhyng-seneddol, ac ni phallodd y diddordeb hwnnw trwy'i oes. Daeth ei etholwyr i'w edmygu, yn arbennig oherwydd y cymorth a roddodd i'r diwydiant awyr yn swydd Gaerhirfryn, ond hefyd oherwydd y dyn ag ydoedd - cymeriad da a diffuant. Dyfarnwyd y CBE iddo ym 1995. Bu farw Lewis Carter-Jones[4] yn 83 oed ar 16 Awst 2004.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd Patricia Hylda, merch Alfred Bastiman, Scarborough, swydd Efrog, yn 1945 a bu iddynt ddwy ferch. Eu cartref oedd 5 Ffordd Gefn, Rhosnesni, Wrecsam.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dod's Parliamentary Companion, 184th Edn. (2016)
  2. The Times Guide to the House of Commons, Times Newspapers Ltd, 1966 a 1983.
  3. Coffad iddo ym mhapur y Guardian; 1 Medi 2004; adalwyd 5 Awst 2016.
  4. Who's Who and Who Was Who, Oxford University Press (2016)