Les fleurs du mal

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Wynebddalen agraffiad 1900 o Les fleurs du mal (Paris, 1900: darluniedig gan Carlos Schwabe)

Cyfrol ddylanwadol o gerddi Ffrangeg a gyhoeddwyd yn 1857 gan y bardd Charles Baudelaire (1821-1867) yw Les fleurs du mal ("Blodau'r Fall"). Dyma gyfrol enwocaf Baudelaire ac un o'r casgliadau mwyaf adnabyddus o gerddi yn y byd.

Cyfansoddodd y cerddi a gyhoeddwyd yn Les fleurs du mal dros gyfnod o rai blynyddoedd ac mae ambell gerdd - fel y rhai yn yr adran Tableaux parisiens - yn ychwanegiadau a geir yn yr ail argraffiad.

Thema'r casgliad yw'r gwrthdaro rhwng spleen (neu 'drygioni') ac idéal (sy'n cynrychioli 'daioni') sy'n rhwygo meddwl a chalon pobl. Mae Baudelaire yn rhoi heibio'r hen gonfensiynau llenyddol ac artistig am brydferthwch a harddwch ac yn ceisio tynnu hanfod gwir brydferthwch o'r gwrthrychau mwyaf hyll. Disgrifia'r cerddi bywyd strydoedd Paris ganol y 19eg ganrif neu ddrygioni ei hun, gan roi iddo ryw harddwch afreal eithriadol sy bron iawn a chyrraedd lefel cyfriniol. Yn gorwedd y tu ôl i'r synfyfyriau hyn yw'r synnwyr o golledigaeth sy'n llenwi meddwl y bardd. Ond er i'r cerddi suddo i ddyfnderoedd anobaith a drygioni mae llais y bardd yn mynnu gwaredigaeth erbyn y diwedd gan na all y Fall orchygu'r Daioni yn y pen draw.

Enynnodd y llyfr ymateb ffyrnig gan rai, yn bennaf oherwydd ei gyfeiriadau erotig (cymharol ddiniwed ac anuniongyrchol yn ôl safonau heddiw) er nad yw'n waith erotig fel y cyfryw. Cafodd ei sensrio a bu rhaid i Baudelaire a'r cyhoeddwyr wynebu achos llys.

[golygu] Dolenni allanol