Leopold III, Dug Awstria

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sêl Leopold III

Dug Awstria o 1365 hyd 1379 a Dug Styria a Carinthia 1365–1386 oedd Leopold III, Dug Awstria (1 Tachwedd, 1351 - 9 Gorffennaf, 1386).

Ganed ef yn Fienna, yn fab ieuengaf i Albrecht II, Dug Awstria, aelod o deulu Habsburg. Rhoddwyd cyfrifoldeb am y Tirol iddo, yna wedi marwolaeth ei frawd hynaf, Rudolf IV, roedd ef a'i frawd Albrecht III yn gyfrifol am weinyddu tiroedd teulu Habsburg. Yn 1375 cyflogodd Enguerrand VII de Coucy, oedd yn hawlio rhan o'r tiriogaethau hyn, fyddin i geisio eu meddiannu, yn yr ymgyrch a elwir yn Rhyfel y Gugler. Roedd Owain Lawgoch yn un o arweinwyr y fyddin hon. Gorfodwyd Leopold a'i fyddin i encilio, ond methodd ymgyrch y Gugler oherydd gwrthwynebiad ffyrnig y Swisiaid.

Dan delerau Cytundeb Neuberg yn 1379, daeth yn rheolwr Styria, Carinthia, Carniola a nifer o diriogaethau eraill. Ychweanegodd at y rhain, ac erbyn 1382 roedd ei feddiannau yn cynnwys Trieste.

Methodd ei ymdrechion i feddiannu y Swistir a Swabia pan laddwyd ef ym Mrwydr Sempach yn 1386. Olynwyd ef gan ei fab hynaf, Wilhelm.