Lemnos

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dinas Mirina

Un o ynysoedd Gwlad Groeg yw Lemnos (Groeg: Λήμνος). Saif yn rhan ogleddol Môr Aegaea, i'r gogledd o Lesbos. Roedd poblogaeth yr ynys yn 18,104 yn 2001.

Y trefi mwyaf yw Mirina a Moudros. Mae amaethyddiaeth yn bwysig yma, ac mae gwin Lemnos yn adnabyddus.

Ym mytholeg Groeg, roedd yr ynys yn gysegredig i Hephaestus; dywedir iddo syrthio yma pan dafodd ei dad, Zeus, ef o Olympos.