Legio X Fretensis

Oddi ar Wicipedia
Adfeilion Gamala yn Israel, a gipiwyd gan X Fretensis yn 68.

Lleng Rufeinig oedd Legio X Fretensis. Ffurfiwyd y lleng gan Octavianus, yn ddiweddarach yr ymerawdwr Augustus, yn 41 CC neu 40 CC. Ymladdodd tros Octavianus yn y rhyfel cartref yn erbyn Sextus Pompeius yn y blynyddoedd nesaf. Cafodd yr enw Fretensis ('o'r Culfor') wedi ei buddugoliaeth dan Marcus Vipsanius Agrippa ym mrwydr Naulochus yn 36, a ymladdwyd yng nghulfor Messina (Fretum Siculum).

Ymladdodd y lleng dros Octavianus ym mrwydr Actium yn 31, pan orchfygwyd Marcus Antonius. Ymddengys iddi gael ei gyrru i dalaith Macedonia am gyfnod, yna i dalaith Syria. Yn 58 - 60 O.C. ymladdodd dan Gnaeus Domitius Corbulo yn erbyn y Parthiaid. Yn 66, symudodd yr ymerawdwr Nero hi i Alexandria gyda Legio V Macedonica, gyda'r bwriad o goncro Ethiopia, ond symudwyd hi yn ôl yn fuan. Bu ganddi ran amlwng yn yr ymgyrch yn erbyn gwrthryfel yr Iddewon, a ddechreupdd yn 66; ymladdodd dan Vespasian ac yn nes ymlaen dan ei fab Titus. Hyd yn gynnar yn 69, ei legad (legatus legionis) oedd Marcus Ulpius Traianus, tad yr ymerawdwr Trajan. Ymladdodd yng Ngalilea gan gipio nifer o ddinasoedd, ac oedd y lleng yn rhan o'r fyddin Rufeinig a gipiodd a dinistrio Jeriwsalem yn 70. Ar ddiwedd y gwrthryfel, hi oedd y lleng a gipiodd gaer Masada.

Wedi'r rhyfel, daeth Jeriwsalem yn ganolfan y lleng. Ymladdodd yn erbyn y Parthiaid eto dan yr ymerawdwr Trajan. Yn 132, gwrthryfelodd Simon bar Kochba a gosod gwarchae ar Jeriwsalem. Dioddefodd y lleng golledion sylweddol. Ymladdodd rhan ohoni yn ymgyrch Marcus Aurelius yn erbyn y Marcomanii. Tua diwedd y 3g, symudodd Diocletianus y lleng o Aila (Eilat heddiw).Ceir y cyfeiriad olaf ati yn y Notitia Dignitatum tua 400.