Legio V Macedonica

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Lleng Rufeinig oedd Legio V Macedonica. Ffurfiwyd y lleng gan y conswl Gaius Vibius Pansa Caetronianus ac Octavianus (yn ddiweddarach yr ymerawdwr Augustus) yn 43 CC. Eu symbol oedd y tarw.

Mae'n debyg i'r lleng ymladd dros Augustus yn erbyn Marcus Antonius ym Mrwydr Actium yn 31 CC. Wedi hynny, bu yn nhalaith Macedonia, lle cafodd ei henw, hyd 6 O.C.. Yn y flwyddyn honno, sumudwyd hi i Oescus yn nhalaith Moesia. Bu'n ymladd yn erbyn y Parthiaid dan y cadfridog Gnaeus Domitius Corbulo, yna yn erbyn y gwrthryfelwyr Iddewig o 67 ymlaen dan Vespasian. Roedd yn un o'r llengoedd a gipiodd a dinistrio Jeriwsalem yn 70 dan fab Vespasian, Titus. Wedi diwedd y rhyfel yma, dychwelodd i Oescus. Yn 96 roedd Hadrian, a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarachh, yn dal swydd tribwn milwrol (tribunus militum) yn y lleng.

Yn 101, symudwyd y lleng i Dacia i ymladd yn erbyn y Daciaid dan Trajan. Wedi diwedd y rhyfel yma, symudwyd hi i Troesmis yn Scythia Minor yn nhalaith Moesia. Bu'n ymladd yn erbyn y Parthiaid eto dan Lucius Verus (161166. Yn ystod teyrnasiad yr ymerawdwr Commodus, gorchfygodd y Sarmatiaid dan arweiniad Pescennius Niger a Clodius Albinus, a thua 185 cafodd y teitl Pia Constans neu Pia Fidelis. Yn 193, cefnogodd Septimius Severus yn rhyfel cartref 193-197. Dychwelodd i Oescus yn 274, a bu yno nes dod yn rhan o fyddin yr Ymerodraeth Fysantaidd.