Legio VII Claudia Pia Fidelis

Oddi ar Wicipedia

Lleng Rufeinig oedd Legio VII Claudia Pia Fidelis. Ffurfiwyd y lleng gan Iŵl Cesar cyn 58 CC.

Roedd y lleng yma yn un o'r pedair lleng wreiddiol a ddefnyddiodd Cesar yn ei ymgyrch i goncro Gâl. Mae Cesar yn sôn an y lleng yma yn ymladd yn erbyn y Nervii yn 57 CC. Yn nechrau 56 CC, roedd y lleng, dan Publius Licinius Crassus, wedi gwersyllu dros y gaeaf yn nhiriogaeth yr Andécaves pan wrthryfelodd y Galiaid. Cipiwyd rhai o'i swyddogion gan y Veneti, gan ddechrau rhyfel rhyngddynt hwy a'r Rhufeiniaid. Cymerodd y lleng ran yn ymosodoadau Cesar ar Brydain yn 55 CC a 54 CC.

Yn ystod y rhyfel cartref rhwng Cesar a Pompeius, ymladdodd dros Cesar ym mrwydrau Dyrrhachium a Thapsus. Wedi diwedd y rhyfel, ymddeolodd y milwyr, a rhoddwyd tir iddynt yn yr Eidal. Wedi llofruddiaeth Cesar, ail-ffurfiwyd y lleng i gefnogi Augustus. Ymladdodd drosto yn erbyn llofruddion Iŵl Cesar ym mrwydr Philippi yn 42 CC.

Tua'r flwyddyn 10 O.C., symudwyd y lleng i Tilurium yn Dalmatia. Pan wrthryfelodd llywodraethwr Dalmatia yn erbyn yr ymerawdwr newydd, Claudius yn 42, bu gan y lleng yma ran amlwg yn y gwaith o orchfygu'r gwrthryfel, ac anrhydeddodd Claudius hi gyda'r teitl Claudia Pia Fidelis. Tua 58, fe'i symudwyd i dalaith Moesia.

Cefnogodd y lleng Vespasian yn 69 (Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr). Wedi dychwelyd i Moesia, bu'n ymladd yn erbyn y Daciaid. Yn 106, cymerodd yn o filwyr y lleng, Tiberius Claudius Maximus, frenin Dacia, Decebalus, yn garcharor. O tua 110 hyd tua 160, bu'r lleng yn y Dwyrain Canol, yn ymladd yn erbyn yr Iddewon a'r Parthiaid. Yn ddiweddarach, dychwelodd i Ewrop dan Marcus Aurelius i ymladd yn erbyn y Marcomannii.