Lefiathan

Oddi ar Wicipedia
Duw yn lladd Lefiathan (engrafiad gan Gustave Doré, 1865)

Anghenfil chwedlonol dinistriol sy’n byw yn nyfnderoedd y môr yw Lefiathan. Cyfeirir at Lefiathan sawl gwaith yn y Beibl. Duw a’i creodd er difyrrwch (gw. Salm. 104.25-26).

Ceir disgrifiad llawn a lliwgar yn Llyfr Job (Job 41). Dywedir amdano, "Nid oes tebyg iddo ar y ddaear, creadur heb ofn dim arno. Y mae’n edrych i lawr ar bopeth uchel; ef yw brenin yr holl anifeiliaid bach" (Job 41.33-34). Dywed Duw wrth Job am Lefiathan, "Os ceisir ei drywanu â’r cleddyf, ni lwyddir, nac ychwaith â’r waywffon, na’r dagr, na’r bicell. Y mae’n trafod haearn fel gwellt, a phres fel pren wedi pydru. Ni all saeth wneud iddo ffoi, ac y mae’n trafod cerrig-tafl fel us. Fel sofl yr ystyria’r pastwn, ac mae’n chwerthin pan chwibana’r bicell" (Job 41.26-29). Mae’n ddychrynllyd ei olwg. Pan ddaw Duw i waredu Israel bydd "yn cosbi Lefiathan, y sarff wibiog, Lefiathan, y sarff gordeddog, ac yn lladd y ddraig sydd yn y môr" (Eseia 271). Mae ganddo sawl pen yn ôl y Salmydd: "Ti, â’th nerth, a rannodd y môr; torraist bennau’r dreigiau yn y dyfroedd. Ti a ddrylliodd bennau Lefiathan, a’i roi’n fwyd i fwystfilod y môr" (Salm 74.13-14).

Gellid ei gymharu â Behemoth, anghenfil arall o'r traddodiad Beiblaidd, sy’n tra-arglwyddiaethu ar anifeiliaid y tir yn yr un modd ag mae Lefiathan yn ben ar greaduriaid y môr. Gelwir brenhinoedd gormesol wrth ei enw. Yn yr Oesoedd Canol credid yr ymddangosai fel un o’r arwyddion o ddiwedd y byd a’r Farn Fawr:

Llwyth byt yg griduan;
Ergelawr [huan];
Dygetawr Llawethan
(Armes Dydd Brawd¹, BBGCC 20.27-9).

Mae'r athronydd Seisnig Thomas Hobbes yn benthyg yr enw yn ei lyfr dylanwadol Leviathan; yno saif yr anghenfil am Lywodraeth sydd efallai yn ddychrynyllyd oherwydd ei nerth a'i gallu ac eto'n angenreidiol er lles dynolryw.

Yn ôl yr emynydd a'r Methodist William Williams Pantycelyn, y crocodeil yw'r Lefiathan: "y Crocodeil, anghenfil o bysgodyn yn afon yr Aipht yw'r Lefiathan a sonier amdano yn llyfr Job" (Golwg ar Deyrnas Crist II, t. 75).

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Daw'r dyfyniadau o'r Beibl Cymraeg Newydd.

  • Marged Haycock (gol.), Blodeugerdd Barddas o Ganu Crefyddol Cynnar (1994). (=BBGCC uchod).
  • J.C.J. Metford, Dictionary of Christian Lore and Legend (Llundain, 1983). ISBN 0500273731

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]