Lefel-O

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Cymhwyster yn seiliedig ar bwnc penodedig, a roddwyd fel rhan o'r Tystysgrif Addysg Gyffredin, oedd Lefel O, daw'r enw o'r Saesneg, O Level a oedd yn sefyll am Ordinary Level. Cyflwynwyd fel rhan o adffurfiad y system addysg Brydeinig yn yr 1950au ynghyd â'r lefel-A (Advanced Level), sydd yn gymhwyster dyfnach a mwy trwyadl yn academaidd.

Diddymwyd y lefel O pan gyflwynwyd arholiadau Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd (TGAU) yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon ym 1988. Diddymwyd y cymhwyster cyfatebol yn yr Alban hefyd, sef yr O-grade (cymerodd y Standard Grade ei le).

Cynnwys

[golygu] Strwythr

Seilwyd y lefel-O ar arholiadau yn bennaf. Roedd hyn yn fantais ar gyfer myfyrwyr a oedd yn dysgu yn rhan-amser neu gyda'r nôs; ond, roedd rhai sylwebwyr yn beirniadu hyn yn hallt oherwydd ei fod ond yn cynnig prawf cyfyngedig o allu myfyriwr i gymharu â ffurfiau eraill o asesu, (gwaith cwrs er enghraifft).

[golygu] Graddio

Graddwyd arholiadau lefel-O ar Raddfa 1 i 9, gydag 1 i 6 yn pasio'r prawf, a gradd 7 i 9 yn methu. Cyflwynodd y rhanfwyaf o fyrddau arholi system safonol o raddio yn ddiweddarach, gydag A, B a C yn graddau pasio a D, E ac U (Unclassified) yn graddau methu. Ni restrwyd graddau U ar y dystysgrif. Nid oedd system Bwrdd Prifysgol Llundain yn cydlynnu yn wreiddiol, ac roeddent yn gwobrwyo graddau A, C ac E ar gyfer pasio a F, H ac U ar gyfer methu. Ymunodd Prifysgol llundain â'r system safonol o raddio yn yr 1970au.

[golygu] Hanes

Ym 1986, cyflwynwyd system newydd i gymryd lle'r lefel-O, gyda'r Tystysgrif Gyffredinol mewn Addysg Uwchradd (TGAU). Cymerwyd yr arholiadau olaf lefel-O ym 1987, roedd y cwricwlwm TGAU eisioes wedi cael ei gychwyn ym 1986, cymerwyd yr arholiadau TGAU cyntaf ym 1988. Mae'r lefel-O yn parhau i gael ei ddefnyddio mewn nifer o gyn-wladfeydd Prydain, megis Bangladesh, Brunei, Ghana, Pakistan, Singapore, Sri Lanka, Malaysia, Malta, Mauritius, Trinidad a Tobago a Hong Kong. Mai rhai ysgolion Prydeinig hefyd wedi troi'n ôl at ddefnyddio arholiadau sy'n seiliedig ar yr hen lefel-O.[1]

Mae'r lefel-O yn parhau i fod yn gymhwyster a gaiff ei barchu a'i gydnabod yn ryngwladol ar gyfer myfyrwyr o wledydd eraill, sy'n eu defnyddio er mwyn paratoi ar gyfer addysg bellach yn eu gwlad eu hun, neu er mwyn mynd i astudio mewn addysg bellach dramor. Ym mis Mehefin 2005, cofrestrodd 12 miliwn o ymgeiswyr o dros 200 gwlad ar gyfer arholiadau lefel-O ar draws y byd. Mae'r sefydliadau sy'n cynnig cyrsiau lefel-O yn cynnwys Arholiadau Rhyngwladol Caergrawnt[2] ac Edexcel Rhyngwladol.[3]

[golygu] Cyfeiriadau

Ieithoedd eraill