Leah Owen

Oddi ar Wicipedia
Leah Owen
Ganwyd13 Hydref 1953 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Bu farw4 Ionawr 2024 Edit this on Wikidata
Dinbych Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcanwr, cyfarwyddwr côr, athro Edit this on Wikidata
PriodEifion Lloyd Jones Edit this on Wikidata
Leah yn 1971
Ar y chwith: Leah Owen.

Cantores, arweinydd a hyfforddwraig o Gymraes oedd Leah Owen (13 Hydref 19534 Ionawr 2024)[1] a ddaeth i'r brig pan enillodd bedair gwobr gyntaf yn Eisteddfod Rhydaman, 1970. Enillodd Fedal Syr T.H. Parry-Williams[2] yn 2010.

Fe'i ganwyd ym Mangor a'i magwyd yn Rhosmeirch ar Ynys Môn.[3] Aeth i Brifysgol Bangor gan raddio gyda Baglor mewn Cerddoriaeth yn 1974. Wedi hynny bu'n dysgu yn Ysgol Hirael, Bangor, Ysgol Uwchradd Dinbych, Ysgol Twm o'r Nant, Dinbych, a Cerdd Cydweithredol Sir Ddinbych a Chanolfan Iaith Sir Ddinbych.

Derbyniodd radd er anrhydedd Doethur mewn Cerddoriaeth gan Brifysgol Bangor ym mis Rhagfyr 2023. Yn y seremoni fe roddodd araith, gan siarad am ei mwynhad o hyfforddi cannoedd o blant a phobl ifanc.[4]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd yn byw yn ardal Prion, Dinbych, gyda'i gŵr Eifion Lloyd Jones. Mae ganddynt pedwar o blant - Angharad, Elysteg, Ynyr a Rhys.[5]

Bu farw yn ei chartref Y Gelli, yn 70 mlwydd oed, wedi cyfnod o salwch.[6] Cynhaliwyd angladd i'w theulu agos fore Iau, 18 Ionawr 2024, cyn gwasanaeth cyhoeddus o ddiolch yn Y Capel Mawr, Dinbych, am 2.00 y prynhawn.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Click here to view the tribute page for Leah JONES". funeral-notices.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-29.
  2. Gwefan Saesneg y BBC.
  3. "'Y llais pur, bendigedig': Leah Owen wedi marw'n 70 oed". Newyddion S4C. Cyrchwyd 6 Ionawr 2024.
  4. "Y gantores Leah Owen wedi marw yn 70 oed". BBC Cymru Fyw. 2024-01-04. Cyrchwyd 2024-01-04.
  5. "www.gwales.com - 9781908801166, Codi'r To". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-10-30.
  6. "'Y llais pur, bendigedig': Leah Owen wedi marw'n 70 oed". newyddion.s4c.cymru. 2024-01-04. Cyrchwyd 2024-01-04.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.