Le Monde
Oddi ar Wicipedia
|
Tudalen blaen Le Monde |
|
| Math | Papur newydd dyddiol |
| Fformat | Berliner |
| Golygydd | Jean-Marie Colombani |
| Sefydlwyd | 1944 |
| Pencadlys | Bd Auguste-Blanqui 80, F-75707 Paris Cedex 13 |
| Gwefan swyddogol | www.lemonde.fr |
Mae Le Monde (Ffrangeg am Y Byd) yn bapur newydd gaiff ei gyhoeddi'n ddyddiol gyda'r hwyr yn Ffrainc a chanddo gylchrediad o 371,803 yn 2004. Ystyrir y papur yn bapur newydd cofnod Ffrainc.
Mae Le Monde yn un o'r papurau newydd sy'n cydweithredu gyda WikiLeaks i gyhoeddi detholiadau o'r dogfennau cyfrinachol a gyhoeddir ar y wefan honno, yn cynnwys "Cablegate".