Laval, Mayenne
Oddi ar Wicipedia
Laval yw prifddinas département Mayenne yn région Pays de la Loire yn Ffrainc. Roedd y boblogaeth yn 50,931 yn 2008.
Saif y ddinas ar afon Mayenne. Dywedir i greiriau sant Tudwal gael eu trosglwyddo yma yn 870 neu 878. Roedd y ddinas o bwysigrwydd strategol oherwydd ei sefyllfa rhwng ardal Île-de-France a Llydaw, a datblygodd yn dref gaerog bwysig.
Pobl enwog o Laval[golygu]
- Ambroise Paré (1509 - 1590), llawfeddyg
- Henri Rousseau (1844 - 1910), (le Douanier), arlunydd