Laura Trott
| Manylion Personol | |
|---|---|
| Enw Llawn | Laura Trott |
| Dyddiad geni |
Ebrill 24, 1992 |
| Gwlad | |
| Taldra | 1.63 m[1] |
| Pwysau | 52 kg[1] |
| Gwybodaeth Tîm | |
| Tîm Presennol | Team Ibis Cycles |
| Disgyblaeth | Trac |
| Rôl | Reidiwr |
| Math o reidiwr | Dygner |
| Tîm(au) Amatur | |
| Velo Club Londres Welwyn Wheelers |
|
| Tîm(au) Proffesiynol | |
| 2011 2012 |
Moving Ladies Team Ibis Cycles |
| Prif gampau | |
| Golygwyd ddiwethaf ar: | |
| 21 Awst 2012 | |
Seiclwraig trac Seisnig ydy Laura Trott (ganwyd 24 Ebrill 1992), sy'n arbennigo mewn pursuit tîm a'r omnium. Hi oedd pencampwr y byd yn y ddau ddisgyblaeth yn 2012.
Cynnwys |
Bywgraffiad [golygu]
Bywyd cynnar [golygu]
Ganed Trott mis yn fuan, yn Harlow[2] yn Essex gyda ysgyfaint wedi cwympo. Treuliodd rai wythnosau yn wael iawn ac roedd perygl na fyddai'n goroesi. Derbyniodd ddiagnosis o asthma yn ddiweddarach a crybwyllwyd ei bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon gan feddygon, fel modd o rheoli ei hanadlu.[3][4] Magwyd yn Cheshunt, Swydd Hertford, a mynychodd Ysgol Turnford.[2][5]
Mae ei chwaer hŷn Emma Trott hefyd yn seiclwraig rasio, on yn arbennigo mewn rasio ffordd.[6] Dechreuont seiclo yr un pryd a'u mam, a benderfynnodd gychwyn seiclo er mwyn colli pwysau. Ymunodd Laura ac Emma gyda hi cyn dod yn fwy difrifol am y gamp.[7]
Gyrfa seiclo [golygu]
Cafodd Trott lwyddiant cynnar gan ennill yr Omnuium odan 14 oed yn y Pencampwriaethau Cenedlaethol. Enillodd nifer o fedalau yn y categorïau odan 16 ac iau yn ogystal cyn dod yn aelod o dîm datblygu British Cycling.
Mae Trott yn Bencampwraig y Byd a Phencampwraig Ewrop ddwywaith yn y pursuit tîm, wedi ennill yn 2011[8] ac eto yn 2012. Mae hefyd yn Bencampwraig y Byd ac Ewrop yn unigol yn yr Omnium yn 2012.[9]
Ymunodd â Thîm Merched UCI Team Ibis Cycles ar gyfer tymor rasio 2012.[10]
Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2012 enillodd Trott fedal aur yn y pursuit tîm ynghyd â Dani King a Joanna Rowsell.[11] Gosododd y tîm record y byd newydd o 3:14.051 yn y gystadleuaeth hon.[12] Gan gynnwys y rowndiau cymhwyso a chyn-derfynol a't terfynol, torrodd y tîm o ferched record y byd chwe gwaith yn olynol.[11] Deu ddydd yn ddiweddarach, enillodd Trott fedal aur yn yr Omnium yn ogystal, camp arbennig yn ei Gemau Olympaidd cyntaf.[13][14][15]
Canlyniadau [golygu]
- 2008
- 3ydd Sbrint, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain, Iau
- 2009
- 2il Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Cylchffordd Prydain
- 1af Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain, Iau
- 1af Ras bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain, Iau
- 2il Treial amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain, Iau
- 3ydd Pencampwriaethau Cenedlaethol Madison Prydain (gyda Hannah Mayho)
- 2010
- 1af
Team Pursuit, Pencampwriaethau Trac Ewrop 2010 - 1af
Pencampwriaethau Cenedlaethol Derny Prydain - 3ydd Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 1af Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain, Iau
- 1af Treial amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain, Iau
- 2il Ras bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain, Iau
- 2il Ras scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain, Iau
- 2011
- 1af
Pursuit tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI - 1af
Omnium, Pencampwriaethau Trac Ewrop 2011 - 1af
Pursuit tîm, Pencampwriaethau Trac Ewrop 2011 - 1af Pursuit tîm, Cwpan y Byd Trac, UCI, Cali
- 1af
Pursuit, Pencampwriaethau Trac Ewrop 2011, Odan 23 - 1af
Ras scratch, Pencampwriaethau Trac Ewrop 2011, Odan 23 - 1af
Pursuit tîm, Pencampwriaethau Trac Ewrop 2011, Odan 23 - 1af Pencampwriaethau Cenedlaethol Ras Ffordd Prydain, Odan 23
- 2il Pursuit, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2il Ras bwyntiau, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2il Ras scratch, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 3ydd Omnium, Cwpan y Byd Trac, UCI, Cali
- 3ydd Treial amser 500m, Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac Prydain
- 2012
- 1af
Omnium, Gemau Olympaidd yr Haf 2012 - 1af
Pursuit tîm, Gemau Olympaidd yr Haf 2012 - 1af
Omnium, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI - 1af
Pursuit tîm, Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI - 1af Pursuit tîm, Cwpan y Byd Trac, UCI, Llundain
- 3ydd Omnium, Cwpan y Byd Trac, UCI, Llundain
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ 1.0 1.1 Athlete: Laura Trott. london2012.com. Adalwyd ar 5 Awst 2012.
- ↑ 2.0 2.1 Donald McRae. "Laura Trott sick to the stomach in pursuit of London 2012 glory", 6 Chwefror 2012.
- ↑ Laura Trott: About Me.
- ↑ Sam Marsden. "Laura Trott battled back from collapsed lung to Olympic gold", 7 Awst 2012.
- ↑ Alasdair Gold. "Trott is an Olympic champion", 4 Awst 2012.
- ↑ Mark Hemmings (21 Hydref 2010). Trott sisters look back on Commonwealth Games experience. Welwyn Hatfield Times. Adalwyd ar 25 Rhagfyr 2011.
- ↑ Vernon Kay (14 Awst 2012). interview on bbc radio. Adalwyd ar 14 Awst 2012.
- ↑ Nick Bull (22 Chwefror 2011). Laura Trott Rider Profile. Cycling Weekly.
- ↑ Ollie Williams (7 Ebrill 2012). Track Worlds: Laura Trott wins omnium as Kenny beats Hoy. BBC.
- ↑ 2012 UCI Women's Teams:TEAM IBIS CYCLES (DPD) – GBR. UCI (13 Ebrill 2012).
- ↑ 11.0 11.1 Olympics cycling: British women win team pursuit track gold. BBC (4 Awst 2012).
- ↑ Douglas Morton (4 Awst 2012). Team GB win gold medal in women's team pursuit with world record time - Cycling - Olympics. The Independent. Adalwyd ar 9 Awst 2012.
- ↑ Matt Slater (4 Awst 2012). BBC Sport - Olympics cycling: Laura Trott wins omnium gold medal. BBC. Adalwyd ar 9 Awst 2012.
- ↑ Ivan Speck (8 Gorffennaf 2012). London 2012 Olympics: Laura Trott wins cycling gold in the omnium | Mail Online. Daily Mail. Adalwyd ar 9 Awst 2012.
- ↑ "Laura Trott wins omnium gold for Team GB".
Dolenni allanol [golygu]
- Gwefan swyddogol
- Proffil Laura Trott ar Cycling Archives
- Biography at British Cycling
- Profile at Team Ibis Cycles