Latifa Arfaoui

Oddi ar Wicipedia
Latifa Arfaoui
Ganwydلطيفة بنت عليه العرفاوي Edit this on Wikidata
14 Chwefror 1961 Edit this on Wikidata
Manouba Edit this on Wikidata
Label recordioRotana Music Group, Universal Music Group, Suria Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTiwnisia Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor ffilm, actor teledu, canwr Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth Arabaidd Edit this on Wikidata

Mae Latifa Bint Alayah Al Arfaoui (Arabeg: لطيفه بنت عليه العرفاوي) (ganed 14 Chwefror, 1961 yn Manouba, ger Tiwnis, Tiwnisia), sy'n adnabyddus dan ei henw llwyfan Latifa (ysgrifen Arabeg لطيفة), yn gantores pop Arabaidd.

Ystyr y gair Latifa yn Arabeg yw "Meddal", "Tyner", "Mwyn" neu "Sensitif". Mae Latifa yn canu yn Arabeg yn bennaf ond mae hi'n rhyddhau fersiynau Ffrangeg o rai o'i chaneuon hefyd o bryd i'w gilydd.

Ei hanes[golygu | golygu cod]

Dyddiau ysgol[golygu | golygu cod]

Brodorion o dalaith Béja oedd ei rhieni. Fe'i ganed yn aelod o deulu mawr; mae ganddi bump brawd a dwy chwaer. Cafodd ei haddysg gynradd yn ysgol gynradd Sidi Omar, yn Manouba, lle arferai ganu yng nghôr yr ysgol. Yn ysgol uwchradd Khaznadar fe'i hyfforddwyd gan ei hathro cerddoriaeth Taoufik Thouidi a chanai â'r gantores Oussama Farhat. Yn ogystal â Farhat roedd y cantoresi Tiwnisaidd Saber Rebaï a Lotfi Bouchnaq yn gyd-ddisgyblion yn yr un ysgol. Yno hefyd y cyfarfu'r Latifa ifanc â'r cerddor Ali Sriti, a roddai iddi wersi canu a dysgu iddi sut i ganu'r oud (offeryn cerdd Arabaidd tebyg i'r liwt) yn ogystal.

Gyrfa gynnar[golygu | golygu cod]

Yn 1978, cymerodd ran yn y rhaglen "Club des talents" ac enillodd y wobr am y gantores orau. Mewn canlyniad cafodd Latifa ei dewis gan y Weinidogaeth Diwylliant i gynrychioli Tiwnisia yn y 3edd Ŵyl Ieuenctid Arabaidd yn Irac lle cyflwynodd ganeuon Tiwnisaidd traddodiadol a detholiad o waith y gantores Eifftaidd enwog Umm Kulthum. Ar ôl ei chyfnod yn yr ysgol astudiodd Almaeneg ac yna y celfyddydau yn "l'Institut supérieur de la musique arabe" yn Nghairo.

Ei yrfa ddiweddar[golygu | golygu cod]

Latifa (1999)

Tyfodd Latifa yn gyflym iawn i fwynhau llwyddiant a phoblogrwydd ledled y byd Arabaidd. Ei chân enwocaf Inch'Allah yw'r bumfed mwyaf poblogaidd yn y byd, yn ôl y cylchgrawn Elle.

Yn 1997, ymddangosodd Latifa mewn cyngerdd yn y Royal Albert Hall yn Llundain ac yn 2004, cafodd World Music Award yn Las Vegas am ei chân Ma trohch biid. Wrth dderbyn y wobr yn Las Vegas dywedodd "Bydd fy llawenydd yn gyflawn y dydd y bydd Palesteina fodoli eto ac Irac mewn heddwch." Yn 2005 sefydlodd Latifa gymdeithas elusennol sy'n dwyn ei henw ac mae hi'n rhoi chwarter o'r incwm o'i chyngerddau i'r elusen honno.

Disgograffiad (detholiad)[golygu | golygu cod]

Cloriau rhai o albymau Latifa
  • Mesa Al Jamal (مسا الجمال) "Noswaith da"
  • Waih Waih (ويه ويه) "Ahhh"
  • Meen Yeqool? (مين يقول؟) "Pwy sy'n deud?"
  • Ya Hayati Ana (يا حياتي انا) "Fy Mywyd"
  • Ala La towadi'oni Habeebi ( ألا لا تودعني حبيبي)
  • Ma Laqetsh Methalak - Ma Banamsh Al Lail (ما لقتش مثالك - ما بنامش الليل)
  • Andak Shak (عندك شك) "Pam wyt ti'n amau?"
  • Lotfi wo Latifa (لطفي و لطيفة)
  • Hat Qalbi Wo Rooh (هات قلبي و روح) "Dyro fy nghalon yn ôl a dos"
  • Akthar Min Roohi (اكثر من روحي) "Mwy na fy enaid"
  • Ashan Bahibbak (عشان بحبك) "Achos dwi'n dy garu"
  • Bel Aql Keda (بالعقل كده) "Calla!"
  • Al Donya Bete'dhak Leya (لدنيا بتضحك 1992 ) "Mae'r byd yn gwenu arnaf"
  • Hobbak Hadi (حبك هادي) 1993 ) "Cariad Llugoer"
  • Ana Ma Atniseesh (انا ما اتنسيش) 1994 ) "Dwi'n fythgofiadwy"
  • Wo Akheran (و اخير 1995 "O'r diwedd!"
  • Ma Wahashtaksh? (ما وحشتكش؟ 1996 ) "Wnest di golli fi?"
  • Al Ghinwa ( الغنوه) 1997 "Y Gân"
  • Taloomoni Al Donya ( تلومني الدنيا) 1998 "Mae pawb yn fy meio"
  • Wadeh - Inchallah ( واضح - انشالله) 1999 "Rhydd eto - os mynnith Duw"
  • Sokoot...Ha Ensawwar ( سكوت... ح نصور) (trac sain ffilm)
  • Ma Etrohsh Ba'ed (ما تروحش بعيد) 2003 ) "Paid â mynd i ffwrdd"
  • Les Plus Belles Chansons De Latifa 2004 (detholiad)
  • Hokom Al Ro'ayaan (حكم الرعيان) 2004 ) (trac sain ffilm)
  • Viva Arabia 4 (2005 - 2 drac: "Khallooni" a "Medardarah")

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]