Lake Wales
Oddi ar Wicipedia
Dinas yn Swydd Polk, Florida, Unol Daleithiau America, yw Lake Wales. Roedd ganddi boblogaeth o 10,194 yn 2000, a dyfodd i 11,802 erbyn 2004. Lleolir Lake Wales yng nghanolbarth Florida, i'r gorllewin o Lake Kissimmee ac i'r dwyrain o Tampa. Ceir Cysegrfan Ste Anne des Lacs ger y ddinas. Ymhlith atyniadau Lake Wales mae Gerddi Bok Tower, Chalet Suzanne, a Spook Hill. Mae canol y ddinas yn ardal o bensaernïaeth o gyfnod y 1920au pan welwyd tyfiant mawr yng ngwerth tir yn Florida.
Dolenni allanol [golygu]
- (Saesneg) Gwefan swyddogol Dinas Lake Wales
- (Saesneg) Lake Wales Historic District