La Soukra
Oddi ar Wicipedia
Tref a chymuned yng ngogledd Tunisia yw La Soukra (Arabeg: سكرة). Fe'i lleolir yn nhalaith Ariana tua 6 km i'r gogledd-orllewin o ganol dinas Tunis, prifddinas Tunisia. Poblogaeth y dref: 15,000 (2004). Poblogaeth y gymuned: 89,151 (2004).
Erbyn hyn mae La Soukra yn un o faesdrefi Tunis, er nad ydyw'n rhan o dalaith Tunis. Mae'n gorwedd rhwng Ariana a La Marsa ger Maes Awyr Rhyngwladol Tunis-Carthage. Rhennir y gymuned yn sawl ardal, sef Chotrana, Sidi Salah, Sidi Fradj, Jamâa Rawdha, Chick El Arab a Dar Faddal.
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: