La Niña

Oddi ar Wicipedia
La Niña
Mathmath o ffenomen meteorolegol, El Niño Southern Oscillation Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Y patrwm arferol yn y Cefnfor Tawel. Mae'r dŵr yn gynhesach (coch ag oren) yn y gorllewin, tra mae dŵr oer (gwyrdd) ger arfordir De America (ar y dde).
La Niña. Mae'r dŵr cynhesach ymhellach i'r gorllewin nag arfer.

Newidiadau sy'n achosi oeri yn nyfroedd rhan ddwyreiniol y Cefnfor Tawel o gwmpas glannau gorllewinol De America yw La Niña (Sbaeneg: "y ferch fechan").

Mae'r ffenomenon yn rhan o'r hyn a elwir yn ENSO' (El Niño-Southern Oscillation); heblaw La Niña ceir cynhesu yn y dyfroedd hyn a elwir yn El Niño (Sbaeneg, yn golygu "y bachgen bychan"). Daw'r enw El Niño o'r bachgen Iesu, gan fod yr effeithiau yn ymddangos o gwmpas y Nadolig fel rheol, a rhoddwyd yr enw La Niña ar y newidiadau gwrthwyneb.

Gall La Niña gael effaith sylweddol ar y tywydd ar draws rhannau helaeth o'r byd. Gall hefyd gael effaith fawr ar bysgodfeydd a phoblogaeth adar môr o gwmpas arfordir De America.