L. Ron Hubbard
Oddi ar Wicipedia
Awdur ffuglen wyddonol a ffantasi Americanaidd a ddyfeisiodd dechneg ac athroniaeth hunangymorth o'r enw Scientoleg a esblygodd i greu Eglwys Scientoleg, sefydliad sy'n uniaethu fel crefydd, oedd Lafayette Ronald Hubbard (13 Mawrth, 1911 – 24 Ionawr, 1986). Ysgrifennodd Hubbard gweithiau sy bellach yn ddysgeidiaeth Scientoleg, yn cynnwys Dianetics.