L'Hospitalet de Llobregat

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Neuadd y Ddinas

Dinas yng Nghatalonia yw L'Hospitalet de Llobregat (Sbaeneg: Hospitalet de Llobregat). Saif yn Nhalaith Barcelona, ar lan afon Llobregat. Gyda phoblogaeth o 253,782 yn 2008, hi yw ail ddinas Catalonia o ran poblogaeth, ar ôl Barcelona. Mae dwysder y boblogaeth yn 21,174 o drigolion y km sgwar, un o'r ffigyrau uchaf yn Sbaen ac yn Ewrop.

Ymddengys enw gwreiddiol y ddinas, Provençana, yn y 10fed ganrif. TYfodd y ddinas bresennol o'r 12fed ganrif ymlaen, o gwmpas eglwys Santa Eulalia de Provençana a'r Hospital de la Torre Blanca. Tyfodd y boblogaeth yn fawr yn y 1960au a'r 1970au, gyda llawer o fewnfudwyr o rannau eraill o Sbaen.