L'Alouette
Oddi ar Wicipedia
Drama gan Jean Anouilh a seilwyd ar fywyd Jeanne d'Arc yw L'Alouette (Yr Ehedydd). Mae Jeanne yn ufuddhau i Lais Duw ac felly yn dod i arwain y Ffrancwyr ac achub ei gwlad rhag y Saeson. Wedi syrthio i ddwylo'r Saeson mae hi'n gwrthod tynnu ei geiriau yn ol. Cafodd ei llosgi wrth y stanc.
Mae trosiad Cymraeg dan yr enw Yr Ehedydd gan Kathleen Parry yn y gyfres Dramâu'r Byd (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976).